Maer newydd yn cychwyn ei swyddogaeth
Wedi ei bostio ar Wednesday 17th May 2017
Ar 16 Mai 2017, parhawyd â thraddodiad sy'n dyddio'n ôl i'r oesoedd canol yng Nghasnewydd pan ddaeth y Cynghorydd David Fouweather yn Faer rhif 385.
Daeth ei wraig Paula yn Faeres newydd mewn seremoni yn y Ganolfan Ddinesig. Nhw oedd yn olynu Maer a Maeres y llynedd, sef y Cynghorydd David Atwell a Carole Atwell.
Ganed y Cynghorydd Fouweather yng nghartref ei hen daid yng Nghasnewydd, sef yr arwr lleol, Tom Toya Lewis. Pan oedd yn 17 oed, peryglodd Tom ei fywyd i helpu eraill yn nhrychineb Dociau Casnewydd ym 1909.
Mynychodd y Cynghorydd Fouweather ysgolion yng Nghasnewydd a gweithiodd i gwmnïau lleol ar ôl gadael yr ysgol. Roedd ef hefyd yn gwnstabl arbennig am 10 mlynedd lle y cyfarfu ei ddarpar wraig.
Bu'n gweithio am 23 mlynedd o fewn y Gwasanaeth Carchardai, lle y mae bellach yn helpu i gefnogi carcharorion sydd â phroblemau iechyd meddwl a phroblemau dibyniaeth.
Mae'n cyflawni ei bedwerydd tymor fel aelod ward dros Allt-yr-Ynn ers iddo gael ei ethol gyntaf yn 2004.
Mae'r tad i ddau yn llywodraethwr ysgol gweithredol, mae'n cefnogi grwpiau lleol megis Canolfan Gymunedol Ridgeway ac mae'n mwynhau mynd â'i ddau gi am dro.
Yn ystod ei flwyddyn yn y swydd, ei elusennau fydd Gofal Hosbis Dewi Sant, MPCT (the Motivational Preparation College for Training) ac Amazing Grace Spaces.
Mae Gofal Hosbis Dewi Sant, a leolir yng Nghasnewydd, yn cynnig cymorth a gofal i bobl a chanddynt salwch sy'n cyfyngu ar fywyd a'u teuluoedd; mae MPCT yn helpu pobl ifanc i gyflawni eu llawn botensial ac mae Amazing Grace Spaces yn elusen sy'n helpu pobl leol mewn argyfwng.
Mae Mrs Fouweather yn gweithio i Target Group yng Nghasnewydd ac mae hi hefyd yn arweinydd Grŵp Sgowtiaid Casnewydd yn ogystal ag arweinydd sgowtiaid cynorthwyol y cybiau.
Cafodd y Cynghorydd Richard White a'i wraig Pamela eu hurddo yn Ddirprwy Faer a Maeres newydd. Mae'r Cynghorydd White wedi cynrychioli ward Maerun am fwy na degawd ac mae'n llywodraethwyr Ysgol Gynradd Maerun ac Ysgol Basaleg.