Yr etholiad cyffredinol: a ydych wedi cofrestru i bleidleisio?
Wedi ei bostio ar Friday 12th May 2017
Bydd modd i drigolion Casnewydd ddewis eu cynrychiolwyr yn yr etholiad cyffredinol nesaf - os ydynt wedi cofrestru i bleidleisio.
Bydd ymgeiswyr yn sefyll yn nwy etholaeth seneddol y ddinas, Dwyrain Casnewydd a Gorllewin Casnewydd, ar 8 Mehefin.
Rhaid i bobl fod wedi'u cofrestru i bleidleisio erbyn dydd Llun 22 Mai. Mae'r rhan fwyaf o etholwyr eisoes wedi'u cofrestru (er enghraifft, y sawl a gafodd gerdyn pleidleisio ar gyfer yr etholiadau lleol ar 4 Mai) ac nis oes rhaid iddynt wneud dim.
Os nad ydych wedi'ch cofrestru, mae'n hawdd cofrestru ar-lein. Dim ond eich enw, eich cyfeiriad gan gynnwys y cod post, eich dyddiad geni a'ch rhif yswiriant gwladol sydd eu hangen arnoch cyn mewngofnodi ar www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio
Fel arall, mae modd gofyn am ffurflen gan dîm gwasanaethau etholiadau Cyngor Dinas Casnewydd, drwy ffonio 01633 656656 neu dwy anfon e-bost i [email protected].
Yn ogystal â hynny, mae modd i fyfyrwyr a fydd gartref ar 8 Mehefin gysylltu â thîm gwasanaethau etholiadol i gael gwybod p'un a ydynt wedi'u cofrestru yn y cyfeiriad cywir.
Yn achos pobl sydd ar wyliau neu nad oes modd iddynt bleidleisio ar 8 Mehefin oherwydd rhesymau eraill, mae modd gwneud cais am bleidlais drwy'r post neu bleidlais drwy ddirprwy.
Rhaid gwneud ceisiadau am bapurau pleidleisio drwy'r post newydd, neu wneud newidiadau mewn perthynas â phapurau pleidleisio drwy'r post, erbyn 5pm dydd Mawrth 23 Mai.
Mewn amgylchiadau penodol, cewch benodi rhywun arall i bleidleisio ar eich rhan. Rhaid gwneud ceisiadau newydd i bleidleisio drwy ddirprwy, neu wneud newidiadau i gais i bleidleisio drwy ddirprwy, erbyn 5pm ddydd Mawrth 23 Mai. Mae modd i breswylwyr wneud cais i rywun bleidleisio ar eu rhan mewn gorsaf bleidleisio cyn 5pm ddydd Mercher 31 Mai.
I gael rhagor o wybodaeth am sut i bleidleisio ewch i www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.