Newyddion

Cyngor yn lansio App Sŵn

Wedi ei bostio ar Friday 19th May 2017
Noise App logo 1604_logotype_TNA (1)

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn lansio app symudol i helpu preswylwyr i adrodd am niwsans sŵn.

Mae’r cyngor yn lansio ei app i gyd-fynd ag Wythnos Atal Sŵn, ymgyrch genedlaethol rhwng 22-27 Mai wedi'i chydlynu gan Amddiffyn yr Amgylchedd y DU.

Bydd yr App Sŵn ar gael i breswylwyr drwy ffôn clyfar neu lechen a byddant yn gallu lawrlwytho’r app am ddim. Os oes angen, bydd modd defnyddio’r app i gyflwyno tystiolaeth ynghylch niwsans sŵn honedig unwaith y mae'r cyngor yn gwybod amdano.

Gallwch lawrlwytho’r app am ddim drwy fynd i www.thenoiseapp.com neu drwy chwilio ar-lein am The Noise App RHE ar Google Play neu Siop Apiau Apple.

Bydd gofyn i breswylwyr greu cyfrif er mwyn defnyddio’r app sy’n eich galluogi i recordio'r sŵn am 30 eiliad, cwblhau ffurflen a chyflwyno adroddiad ar-lein.

Nid yw defnyddio’r app yn disodli ymweliadau monitro sŵn swyddogion y cyngor er mwyn pennu a oes niwsans sŵn statudol, ond mae'n ei gwneud hi'n haws i breswylwyr gyflwyno tystiolaeth i ategu eu honiadau.

Gall y cyngor ymchwilio i niwsans sŵn sy'n deillio o offer ag amp megis cerddoriaeth/teledu, gweithgareddau gwaith y cartref, cŵn yn cyfarth a sŵn yn deillio o eiddo masnachol.

Dywedodd siaradwr ar ran y cyngor: “Mae’r app yn hawdd i’w ddefnyddio ac yn ei gwneud hi’n hawdd logio dyddiadau ac amseroedd, ynghyd â recordio a yw pobl yn dymuno cyflwyno gwybodaeth yn electronig.”

Er mwyn adrodd am niwsans sŵn newydd gall preswylwyr ffonio 01633 656656 neu adrodd gan ddilyn ein dolen http://www.newport.gov.uk/en/Transport-Streets/Pollution-and-noise-control/Noise-nuisance/How-we-deal-with-noise-complaints.aspx.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.