Cymorth pwrpasol i fusnesau newydd
Wedi ei bostio ar Monday 20th March 2017
Mae Cyngor Dinas Casnewydd ac is-gwmni Tata Steel, UK Steel Enterprise (UKSE) yn rhedeg cynllun grant ar y cyd i helpu busnesau newydd.
Cazanofa Tailors yn Commercial Road yw'r fenter ddiweddaraf i fanteisio ar y rhaglen Kickstart.
Gamar Timan, sydd â mwy nag 20 mlynedd o brofiad yn y fasnach, sy'n rhedeg y teilwyr traddodiadol lle mae'n gwneud addasiadau a siwtiau a ffrogiau unigryw.
Dechreuodd fasnachu y llynedd ar ôl gweld bwlch yn y farchnad ar gyfer ei sgiliau yn ardal Pillgwenlli. Defnyddiodd y grant busnes newydd i brynu peiriannau gwnïo arbenigol.
Dywedodd y Cynghorydd John Richards, Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros Adfywio a Buddsoddiad: "Mae'n wych gweld busnesau newydd yn cael eu creu yn ein dinas, ac mae'n grêt bod UKSE, gan weithio mewn partneriaeth â'r cyngor, yn gallu rhoi help llaw i rai o'n trigolion mentrus."
Dywedodd Martin Palmer, swyddog gweithredol buddsoddi UKSE: "Rydyn ni wrth ein bodd o gynnig cymorth i'r fenter newydd hon sydd â'r nod o gadw sgiliau traddodiadol a chreu swyddi yn yr ardal er budd pobl Casnewydd."
Am ragor o wybodaeth am gymorth i fusnesau yng Nghasnewydd, ewch i:
www.newport.gov.uk/business