Newyddion

Cofrestrwch nawr i bleidleisio yn etholiadau Mai

Wedi ei bostio ar Friday 31st March 2017

Mae'n rhaid i drigolion Casnewydd gofrestru ar gyfer y gofrestr etholiadol erbyn 13 Ebrill neu ni fyddant yn gallu pleidleisio yn etholiadau'r cyngor ym mis Mai.

Ddydd Iau 4 Mai, bydd pobl yn dewis yr ymgeiswyr y maent eisiau iddynt eu cynrychioli ar gyngor y ddinas am y pedair blynedd nesaf.

Gall trigolion bleidleisio drwy bleidlais bost neu roi eu croesau yn eu gorsafoedd pleidleisio lleol ar y diwrnod.

Fodd bynnag, ni allant gael dweud eu dweud oni bai eu bod ar y gofrestr etholiadol.

Mae sawl ffordd o wneud cais i gofrestru: ar-lein ar www.gov.uk/register-to-vote, dros y ffôn ar 01633 210744 (gyda dyddiad geni a rhif Yswiriant Gwladol) neu drwy gwblhau ffurflen gofrestru bapur.

Gallwch ofyn am y ffurflen hefyd gan dîm gwasanaethau etholiadau Cyngor Dinas Casnewydd, ffôn 01633 656656 neu e-bost [email protected]

I gael rhagor o wybodaeth am etholiadau llywodraeth leol mis Mai - pan fydd ymgeiswyr yn brwydro dros 50 o seddi yn 20 ward y ddinas - ewch i www.newport.gov.uk/elections

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.