Newyddion

Ysgol Fusnes Godi yn ysbrydoli entrepreneuriaid Casnewydd

Wedi ei bostio ar Thursday 23rd March 2017

Ysbrydoledig, anhygoel a gwych - dim ond rhai o'r geiriau a ddefnyddiwyd gan y rhai fynychodd yr Ysgol Fusnes godi ddiweddar yng Nghasnewydd.

Mynychodd dros 100 o bobl sgyrsiau a gweithdai am ddim a gynhaliwyd yn ardal yr oriel ym marchnad Casnewydd.

Y llynedd, sefydlodd Cyngor Dinas Casnewydd gronfa ddatblygu i gefnogi twf busnes, ac un o'r mentrau oedd i gynnal Ysgol Fusnes Godi.

Fe'i cynhaliwyd dros bythefnos, a denodd dros 100 o bobl o'r rhai hynny oedd ag egin syniad i fusnesau oedd wedi hen ymsefydlu.

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: "Roeddem wrth ein boddau yn croesawu'r Ysgol Fusnes Godi i Gasnewydd ac mae wedi bod yn llwyddiant digamsyniol.

  ""Mae wedi bod yn wych clywed fod cymaint o bobl ag awydd dechrau busnes newydd neu ddatblygu un sy'n bod eisoes, ac rwy'n falch fod y digwyddiad yma wedi llwyddo i roi'r hyder iddynt, neu'r wybodaeth oedd ei hangen arnynt, i wneud hynny.

  "Rwy'n mawr obeithio y bydd hyn yn rhywbeth y byddwn yn gallu ei ail adrodd yn y dyfodol, ac y bydd hyd yn oed mwy o bobl yn bachu ar y cyfle i gael cipolwg gwerthfawr ar sut mae troi syniad yn rywbeth cadarn, neu helpu eu busnes i dyfu."

Diolchodd y Cynghorydd Wilcox i'r Ysgol Fusnes Godi a phartneriaid eraill y digwyddiad - Newport City Homes, Busnes Cymru, Cymunedau'n Gyntaf, Newport Now, Charter Housing, Monmouthshire Housing Association a'r Ganolfan Byd Gwaith

 Dywedodd Alan Donegan o'r Ysgol Fusnes Godi: "Roedd yn wych. Rydym wedi bod yn helpu pobl i weld nad oes angen arian arnoch i ddechrau busnes. Erbyn diwrnod tri, maent yn adeiladu eu gwefannau am ddim ac erbyn diwrnod pump maent yn cael eu gwerthiant cyntaf - mae'n ennyd sy'n newid bywyd."

I ddarganfod mwy am yr ystod o gefnogaeth a chyngor sydd ar gael gan dîm gwasanaethau busnes y cyngor ewch i www.newport.gov.uk/business

Ar y tudalennau hyn gallwch hefyd ddarganfod beth oedd barn pobl am yr Ysgol Fusnes Godi a rhai o'u syniadau a'u mentrau http://www.newport.gov.uk/en/Business/Advice-and-support/Pop-up-Business-School.aspx

.

Diwedd Cysylltiadau Cyhoeddus Cyngor Sir Casnewydd 01633 210461

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.