Newyddion

Cyngor yn helpu asiantaeth deithio newydd

Wedi ei bostio ar Tuesday 7th March 2017

Mae busnes teithio newydd yng nghanol dinas Casnewydd wedi cael dechrau da ar ôl derbyn cymorth ariannol gan gyngor y ddinas.

Y llynedd, sefydlwyd cronfa ddatblygu busnesau ac un o'r mentrau oedd cynllun grant cymhorthdal i siopau oedd yn helpu i dalu rhent menter newydd am y flwyddyn gyntaf.

Mae Jayde Nasa yn un o'r busnesau sydd wedi gwneud cais am grant yn llwyddiannus hyd yn hyn ac yn ddiweddar agorodd Nassa Travel yn yr Adeiladau Cenedlaethol, Commercial Street.

Mae hi wedi agor ei busnes newydd yn y ddinas lle cafodd ei geni a'i magu.

Mae'r fam ifanc wedi gweithio yn y diwydiant teithio ers iddi ddechrau prentisiaeth gyda Thomas Cook yn 16 oed, ac yn 19 oed hi oedd un o'r gwerthwyr lleol gorau.

  "Yn 2015, dechreuais fy musnes ar-lein fy hun, ac wrth iddo dyfu, magais fwy o hyder. Mae'r grant cymhorthdal i siopau gan Gyngor Dinas Casnewydd yn wych a bydd yn bendant yn gwneud gwahaniaeth, yn enwedig yn ystod y flwyddyn gyntaf."

Yn ogystal canmolodd Jayde Andrew Jacob, un o ymddiriedolwyr yr Adeiladau Cenedlaethol, gan ei ddisgrifio fel "landlord hyfryd". Roedd yr Adeiladau Cenedlaethol yn un o'r projectau a fanteisiodd ar y rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid a arweinir gan y Cyngor ac mae ei busnes bellach yn un o'r unedau manwerthu newydd deniadol.

Dywedodd y Cynghorydd John Richards, Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros Adfywio a Buddsoddiad: "Jayde yw'r busnes diweddaraf i gael budd o'r grant sydd wedi'i greu i roi rhywfaint o gymorth yn ystod y flwyddyn gyntaf bwysig honno.

  "O ystyried ei huchelgais a'i brwdfrydedd, rwy'n siŵr y bydd ei hasiantaeth deithio'n llwyddiannus iawn a hoffwn ddymuno'r gorau iddi ar gyfer y dyfodol.

"Dylai busnesau newydd eraill sydd am ddilyn llwybr Jayde gysylltu â'n tîm gwasanaethau busnes ond peidiwch oedi gan fod y gronfa hon yn dod i ben ar ddiwedd mis Mawrth."

Mae'r grant cymhorthdal diamod ar gyfer rhent siopau, oedd ar gyfer mentrau newydd sy'n sefydlu yn Heol Fawr a Commercial Street yn wreiddiol, wedi'i ymestyn i ardal ehangach yng nghanol y ddinas.

Rhaid i unigolion a masnachfreintiau sy'n bwriadu lleoli busnes yn yr ardal Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid wneud cais am grant o hyd at 50 y cant (uchafswm o £6,000) erbyn 17 Mawrth.

I drafod project neu ofyn am ffurflen gais, e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch 01633 656656.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.