Newyddion

Trigolion newydd yn credu y bydd datblygiad Pillgwenlli yn gatalydd ar gyfer newid

Wedi ei bostio ar Thursday 23rd March 2017
Cllr Richards meets resident Andrew Kelly and Pobl representatives at new Pill development

Mae trigolion newydd yn ymgartrefu yn eu cartrefi newydd ar safleoedd blaenorol tafarnau'r Kings Arms a Top of the Range yn Commercial Road, Pillgwenlli ac yn gobeithio y bydd hyn yn gatalydd ar gyfer adfywio'r ardal yn fwy.

Roedd y Kings Arms, adeilad hanesyddol ac enwog a adeiladwyd yn 1830 ac a ailadeiladwyd yna yn 1890, wedi mynd yn hyll, wedi sefyll yn wag ers mwy na 15 mlynedd, ac wedi bod yn destun llosgi a ffynhonnell ymddygiad gwrthgymdeithasol sylweddol.

Mae'r adeiladau gwag bellach wedi'u dymchwel ac mae'r safle wedi'i drawsnewid yn ddatblygiad tai modern gan y darparwr tai, gofal a chymorth lleol Pobl Group.  Mae'r datblygiad yn cynnwys cymysgedd o naw fflat un a dwy ystafell wely gyda pharcio is-grofft a thŷ pedair ystafell wely mawr cyfagos, ac mae'n cael ei rentu trwy Tai Charter.

Symudodd Andrew Kelly i mewn i un o'r fflatiau un ystafell wely ym mis Chwefror ac roedd wrth ei fodd i gael cyfle i ddangos grŵp o westeion, gan gynnwys y Cynghorydd John Richards, yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Buddsoddiad, o gwmpas ei gartref newydd. 

Dywedodd: "Roeddwn wedi fy synnu a fy nghyffroi o fod yn ddigon lwcus i gael fy nghartref newydd, a theithiais i Billgwenlli bob dydd i'w wylio'n cael ei adeiladu!  Rwy'n hoffi bod gwreiddioldeb yr adeilad blaenorol wedi'i gadw, ac rwyf wrth fy modd yn benodol o fy nghegin fodern newydd a'r parcio is-grofft, sy'n llawer mwy diogel na pharcio ar y stryd.

 "Roeddwn i hefyd yn hynod falch o ddarllen yr wythnos hon am yr £8m sy'n cael ei fuddsoddi ym Mhillgwenlli yn gyffredinol ac rwy'n obeithiol y bydd hyn yn helpu i adfywio Pillgwenlli yn fwy i fod yn ardal ddeniadol sy'n braf byw ynddi."

 Dywedodd Rhys Parry, Cyfarwyddwr Datblygu Pobl (dwyrain): "Mae wedi bod yn arbennig o werthfawr cael y cyfle hwn i gwrdd ag Andrew a gweld sut mae wedi ymgartrefu'n gyflym.

  "Mae'r cartrefi newydd ymhlith y datblygiadau mawr diweddaraf sy'n rhoi bywyd newydd i ddinas Casnewydd, wedi'u darparu gan Gyngor Dinas Casnewydd a Pobl, yn rhan o raglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru".

 Dywedodd y Cynghorydd Richards: "Mae trawsnewidiad y safle hwn wedi bod yn rhyfeddol. Yn lle adeilad gwag wedi'i esgeuluso, ceir cartrefi newydd gwych ar gyfer pobl leol, megis Andrew.

   "Rwy'n falch fod Cyngor Dinas Casnewydd, trwy'r Rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, wedi gallu gweithio gyda Pobl ar y project ardderchog hwn."

 

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.