Newyddion

Cyw entrepreneuriaid yn cael lle yng nghystadleuaeth Farchnad Casnewydd

Wedi ei bostio ar Tuesday 14th March 2017
all winners market comp

Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd gyda'r enillwyr

Mae Marchnad Casnewydd yn barod i groesawu tri busnes newydd ar ôl iddynt ennill cystadleuaeth a gynhelir gan Gyngor Dinas Casnewydd mewn cydweithrediad â Newport Norse.

Gwahoddodd y gystadleuaeth bobl â syniadau busnes a allai weithio ym Marchnad Casnewydd i gyflwyno eu syniad i banel ar ffurf Dragons’ Den.   Ymhlith y nifer mawr o geisiadau a dderbyniwyd, gwahoddwyd dwsin i gyflwyno eu syniadau i’r panel, oedd i gyd yn cystadlu i gael stondin ar y llawr daear.

Dewisodd y beirniaid Cherish Clothing Boutique a redir gan Catherine Farmer a Ffion Cos fel yr enillydd cyffredinol ymhlith y 12 o derfynwyr.

Mae’r ddwy fenyw, sy’n dweud yn eu cyflwyniad cystadleuaeth bod ‘ffasiwn yn agos at eu calonnau', yn awyddus i ddenu cwsmeriaid iau i'r farchnad gyda'u syniad busnes.

Creon nhw argraff ar y panel beirniadu, oedd yn cynnwys y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, Mr Lyndon Watkins, rheolwr gyfarwyddwr Newport Norse a Mr Adrian Evans, rheolwr AGB Casnewydd, gyda’u cyflwyniad.

Mae eu gwobr le cyntaf sef stondin heb rent am 12 mis yn golygu eu bod yn gallu agor siop dillad bach nawr gyda’r bwriad o ddenu ystod eang o gwsmeriaid gan gynnwys pobl busnes, mamau sy’n disgwyl a myfyrwyr.

Yr ail-oreuon, a enillodd unedau heb drwydded am chwe mis, yw Jacki Tyler sydd am redeg stondin therapi/harddwch yn cynnig triniaethau gofal ewinedd, glanhau wynebau, tylino, aromatherapi ac adweitheg, a Pattarika Bankluay sydd am gynnig prydau parod bwyd Thai i gwsmeriaid.

Fodd bynnag, creodd yr ymgeiswyr eraill yn y gystadleuaeth argraff mor fawr ar y beirniaid eu bod wedi penderfynu y cynigir mentrau iddynt i'w helpu i roi eu syniadau busnes ar waith yn farchnad hanesyddol Casnewydd.

Dywedodd y Cynghorydd Wilcox: “Mae’r gystadleuaeth hon wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth ddenu syniadau busnes newydd i Farchnad Casnewydd.

“Llongyfarchiadau i’n tri enillydd teilwng ac rydym yn gobeithio y cânt eu hymuno’n fuan gan ymgeiswyr cystadleuaeth eraill wedi’u hysbrydoli i ddilyn eu llwybrau.

“Hoffem ni ddiolch i bawb a gymerodd ran. Roedd safon y ceisiadau eithriadol o uchel, a chreodd y rhai hynny a gymerodd ran argraff fawr arnom. Mae’r gystadleuaeth hon wedi dangos bod gan Gasnewydd nifer o entrepreneuriaid gwych gyda syniadau busnes ardderchog.

“Pob lwc ar gyfer y dyfodol. Dymunwn bob llwyddiant i chi ac edrychwn ymlaen at ddychwelyd yn fuan i weld y busnesau newydd hyn yn masnachu’n llwyddiannus ym marchnad fywiog Casnewydd.”

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.