Magnelau Brenhinol Catrawd 104 i orymdeithio drwy Gasnewydd
Wedi ei bostio ar Wednesday 29th March 2017
Bydd milwyr o Fagnelau Brenhinol Catrawd 104 yn nodi eu hanner canmlwyddiant ar Orymdaith Rhyddid y Ddinas drwy ganol y ddinas ar ddydd Sadwrn 1 Ebrill.
Bydd Maer Casnewydd y Cynghorydd David Atwell ac Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd Debbie Wilcox ymhlith y gwesteion.
Mae gan y Gatrawd gysylltiadau cryf â’r ddinas fel uned wrth gefn y Fyddin ym Marics Rhaglen a rhoddwyd Rhyddid Casnewydd iddynt ym 1978.
Bydd tua 100 milwr yn arfer eu hawl i orymdeithio drwy’r ddinas â’u baneri, drymiau a’u bidogau dan arweiniad Band y Magnelau Brenhinol.
Bydd yr orymdaith yn dechrau yn Cambrian Road am 12.30pm ac yn mynd ar hyd Heol Y Bont ac yna Heol Fawr i Gofeb Dydd D lle bydd seremoni fer.
Bydd y Maer yn arolygu’r orymdaith a’r Cynghorydd Wilcox yn darllen Sgrôl Rhyddid y Ddinas. Bydd Pennaeth yr Orymdaith yna’n gofyn caniatâd i orymdeithio drwy’r ddinas.
Yna bydd yr orymdaith yn ymgynnull ac yn teithio i lawr Heol Charles, croesi Stow Hill ac yn dilyn Commercial Street i’r gyffordd â Charles Street a Llanarth Street.