Newyddion

Treial i leihau tagfeydd wedi bod yn llwyddiannus

Wedi ei bostio ar Wednesday 14th June 2017

Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref y

Yn dilyn treial llwyddiannus i leihau tagfeydd o gwmpas Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref y ddinas mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi penderfynu parhau i weithredu'r cynllun dros yr haf.

Bydd llif traffig yn cael ei wrthdroi yn Docksway ar benwythnosau yn unig nes y bydd adolygiad llawn o systemau traffig dyddiau'r wythnos wedi’i gwblhau.

Fel arfer y penwythnos yw'r amser mwyaf prysur i drigolion sydd am ailgylchu eitemau'r cartref a gwaredu gwastraff gweddilliol.

Yn ystod y treial, o ganlyniad i wrthdroi'r llif traffig, lleihawyd nifer y cerbydau oedd yn aros ar yr A48 a sicrhaodd diogelwch traffig gwell.

Y peth a ysgogodd y newid oedd ffeinal diweddar Cynghrair y Pencampwyr pan ddisgwyliwyd tagfeydd wrth i filoedd o bobl ddod i Gymru am un o ddigwyddiadau chwaraeon mwyaf y ddegawd.

Yn ogystal, yn sgil y ffeinal, newidiwyd casgliadau gwastraff ac ailgylchu Gŵyl y Banc a gan fod hyn wedi bod mor llwyddiannus mae Cyngor Dinas Casnewydd a Wastesavers yn bwriadu gwneud yr un peth ar gyfer pob gŵyl y banc heblaw am y Nadolig gan ddechrau gyda chasgliadau Gŵyl y Banc mis Awst.

Mae hyn yn golygu y bydd casgliadau biniau ac ailgylchu ar eu diwrnodau arferol yn lle diwrnod yn hwyrach ar gyfer dyddiau Llun Gŵyl y Banc.

Dywedodd y Cynghorydd Roger Jeavons, Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros y Strydlun y bydd y newidiadau yn helpu i wella gwasanaethau gwastraff yn y ddinas.

“Bu’r ddau dreial o gwmpas y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref a chasgliadau Gŵyl y Banc yn llwyddiannus iawn.

“Cawsom lawer o adborth cadarnhaol gan drigolion a staff rydym wedi’i ystyried a dyma pam rydym yn cyflwyno’r cynlluniau newydd hyn.

“Byddwn yn treialu gwrthdroi’r llif traffig yn ystod yr haf ac os ydym yn dal i gael adborth cadarnhaol byddwn yn gweithredu hyn yn barhaol.

“Bydd casgliadau gwastraff Gŵyl y Banc hefyd yn parhau ym mis Awst ac rydym yn falch o ddweud bod Wastesavers yn gwneud yr un peth,” meddai’r Cynghorydd Jeavons.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.