Newyddion

Hwb i wariant ar gyfer rhagor o brosiectau adfywio'r ddinas

Wedi ei bostio ar Thursday 8th June 2017

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ceisio cytundeb â Llywodraeth Cymru a fydd yn ei alluogi i wario mwy na £2 filiwn ar gynlluniau adfywio.

Yn 2002, sefydlodd y Cyngor a Llywodraeth Cymru gwmni adfywio trefol o'r enw Newport Unlimited.

At ddiben adfywio'r economi, ymgymerwyd â nifer o fentrau ar y cyd gan gynnwys gwaith datblygu Doc yr Hen Dref a menter gosod Tŷ Alacrity i'w wneud yn hyb meithrin busnesau.

O ganlyniad, mae mwy na £2.3 miliwn yn ddyledus i'r Cyngor.

Mewn cyfarfod ddydd Mercher nesaf (14 Mehefin), gofynnir i'r Cabinet gymeradwyo protocol a fydd yn ei gwneud yn bosibl gwario'r arian yn y ddinas ar ôl i Lywodraeth Cymru gymeradwyo hynny.

Argymhellir y caiff cyfanswm y cyllid ei wario ar weithgareddau adfywio economaidd yng Nghasnewydd.

Yn unol â Deddf Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), rhaid i gyrff cyhoeddus fel y Cyngor wneud yn siŵr y caiff penderfyniadau eu gwneud gan ystyried yr effaith ar drigolion.

Dylai'r ffordd y caiff yr arian hwn ei wario yng Nghasnewydd hyrwyddo nodau'r ddeddf gan wneud y ddinas yn fwy ffyniannus a gwydn sydd â chymunedau cynaliadwy a chydlynol. Gwneir hynny drwy greu a chynnal swyddi, drwy atal dirywiad mewn ardaloedd allweddol a thrwy wella'r amgylchedd ffisegol.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.