Newyddion

Rhannwch eich atgofion o Arcêd y Farchnad

Wedi ei bostio ar Friday 16th June 2017

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn apelio am help gan y cyhoedd yn rhan o broject i adfer arcêd hanesyddol yng nghanol y ddinas.

Ym mis Ionawr, bu'r cais i Gronfa Dreftadaeth y Loteri am gynllun Treftadaeth Treflun ar gyfer Arcêd y Farchnad yn llwyddiannus.

Cafodd £177,300 ei ddyfarnu tuag at ddatblygu project a allai sicrhau mwy na £1 miliwn ar gyfer project adfywio cynhwysfawr.

Yn rhan o'r gwaith cychwynnol hwnnw, mae digwyddiad atgofion yn cael ei gynnal ym Marchnad Casnewydd rhwng 29 Mehefin ac 1 Gorffennaf.

Mae pobl yn cael eu hannog i fynd ag unrhyw luniau, cofebau neu ddogfennau ac i rannu eu hatgofion o'r arcêd sydd rhwng Heol Fawr a Market Street.

Bydd y digwyddiad yn agos at y fynedfa yn Upper Dock Street (ger gorsaf fysiau Market Street) o 9am i 4pm.

Meddai'r Cynghorydd Jane Mudd, yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Thai: "Er y byddai'n wych pe bai gan bobl hen ffotograffau neu dystiolaeth arall o hanes yr arcêd, rydym hefyd am i bobl roi straeon i ni am y busnesau a'r bobl oedd yn gweithio yno.

  "Bydd hyn i gyd yn helpu gyda'r cynlluniau i adfer yr arcêd i'w anterth gynt, a bydd hynny o fudd nid yn unig i berchenogion a thenantiaid heddiw ond hefyd yn y gwaith parhaus o adfywio canol y ddinas."

Yn yr 19eg ganrif chwaraeodd Arcêd y Farchnad ran bwysig yn nhwf canol y dref. Wedi ei enwi'n Fennell's Arcade yn wreiddiol, cafodd ei greu ym 1869 yn llwybr allweddol i gerddwyr rhwng gorsaf y rheilffordd a'r farchnad newydd bryd hynny.

Tweet: Rhannwch eich atgofion o Arcêd y Farchnad yn rhan o broject i adfer y cyswllt hanesyddol hwn yng nghanol y ddinas 29 Mehefin-1 Gorffennaf

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.