Newyddion

Iechyd Cyhoeddus Cymru: Brechu dros 600 o blant yn yr achos o'r frech goch yng Nghasnewydd

Wedi ei bostio ar Friday 23rd June 2017

Mae dros 600 o blant wedi cael y brechiad MMR bellach mewn sesiynau a gynhaliwyd yn ysgolion Casnewydd mewn ymateb i achos o'r frech goch.

Mewn llai na thair wythnos ers datgan yr achos, mae cyfanswm o 604 o blant wedi cael eu himiwneiddio.

Ni fu unrhyw achosion pellach a gadarnhawyd o'r frech goch yn yr achos, sydd wedi effeithio ar bump o bobl.

Mae'r math o'r frech goch wedi'i nodi fel yr un math â'r un sydd wedi creu achosion o'r haint ledled Ewrop dros y misoedd diwethaf.

Mae rhieni ledled Cymru yn cael eu hannog i sicrhau bod eu plant yn cael eu brechu â dau ddos o MMR, yn enwedig os ydynt yn bwriadu ymweld ag Ewrop dros yr haf neu'n mynd i wyliau yn y DU.

Dywedodd Heather Lewis, Ymgynghorydd Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Hoffwn ddiolch i gydweithwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn enwedig gwasanaethau nyrsio mewn ysgolion, sydd wedi gweithio mor galed i frechu cymaint o blant mewn cyn lleied o amser.

"Fodd bynnag, ni ddylem fod yn hunanfodlon yn sgil nifer y plant sydd wedi cael eu brechu a diffyg unrhyw achosion newydd. Gyda'r frech goch yn lledu yn eang yn Ewrop a dim ond yn daith fer i ffwrdd ar awyren, mae plant nad ydynt wedi'u brechu yn llawn yn parhau mewn perygl o'r haint hwn a allai fod yn angheuol, gartref a thramor.

"Mae'r frech goch yn heintus iawn a'r unig ffordd o atal achosion mawr yw drwy frechu. Rydym yn annog rhieni nad yw eu plant wedi cael y ddau ddos diweddaraf o MMR i sicrhau eu bod yn cysylltu â'u meddygfa ar unwaith er mwyn trefnu'r brechlyn cyflym, diogel ac effeithiol hwn."

Mae pob un o'r pum achos o'r frech goch a gadarnhawyd hyd yma â chysylltiad ag Ysgol Uwchradd Llysweri yng Nghasnewydd. Cynhaliwyd sesiynau brechu yno i ddechrau ac mewn chwe ysgol gynradd gysylltiedig.

Yn ogystal, mae rhaglen dreigl o sesiynau brechu yn mynd rhagddi mewn ysgolion ar draws Casnewydd.

Dylai plant â symptomau'r frech goch - sy'n cynnwys twymyn, peswch, trwyn yn rhedeg, llygaid coch (llid pilen y llygad), a brech goch nodweddiadol - gael eu cadw gartref o'r ysgol.

Dylai rhieni sy'n amau bod gan eu plentyn y frech goch gysylltu â'u meddyg teulu neu ffonio Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 am asesiad. Dylent hefyd dynnu sylw eu meddyg teulu at y symptomau cyn mynd i unrhyw apwyntiad.

Yn ogystal, anogir oedolion a anwyd ers 1970, nad ydynt erioed wedi cael y frech goch na'r brechlyn MMR, i sicrhau eu bod yn cysylltu â'u meddygfa ynghylch brechu, yn enwedig os ydynt yn gweithio gyda phlant.

Mae'r dos cyntaf o MMR fel arfer yn cael ei roi i fabanod pant maent rhwng 12 a 13 mis oed a'r ail pan fyddant yn dair oed a phedwar mis, ond nid yw byth yn rhy hwyr i ddal i fyny ar ddosau a gollwyd.

Gall tua 1 o bob 5 o blant â'r frech goch brofi cymhlethdodau difrifol fel heintiau yn y glust, niwmonia neu lid yr ymennydd. Mae un o bob 10 o blant â'r frech goch yn gorfod mynd i'r ysbyty ac mewn achosion prin gall fod yn angheuol.

Ceir rhagor o wybodaeth am y frech goch, gan gynnwys dolen i dystiolaeth fideo gan fam y gwnaeth ei merch tair oed heb ei brechu gael y frech goch yn http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/tudalen/44195

Ends Public Relations Newport City Council 01633 210461

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.