Newyddion

Gwrandawiad enillion troseddau ar gynllwyn twyllo

Wedi ei bostio ar Thursday 1st June 2017

Mae gwrandawiad enillion troseddau ar destun achos tad a mab a garcharwyd am gynllwynio i dwyllo cwsmeriaid yn ne Cymru wedi arwain at gyflwyno dirwy o dros £200,000 i’r pâr.

Yn dilyn ymchwiliad gan Dîm Ymchwilio Rhanbarthol (Cymru) Safonau Masnach Cenedlaethol, daeth Cyngor Dinas Casnewydd ag achos yn erbyn Jeffrey Tawse, 52 oed a James Tawse, 25 oed. Bu i'r ddau o Dredelerch yng Nghaerdydd bledio’n euog i’r cyhuddiad yn Llys y Goron Casnewydd ym mis Gorffennaf 2016.

Ym mis Medi 2016, dedfrydwyd Jeffrey Tawse i bedair blynedd yn y carchar a’i fab James i ddwy flynedd yn y carchar. Plediodd Jeffrey Tawse hefyd yn euog i drosedd gwyngalchu arian a chafodd ei ddedfrydu i ddwy flynedd arall.

Ddydd Gwener, 19 Mai 2017, cynhaliwyd gwrandawiad atafael enillion troseddau yn Llys y Goron, Caerdydd lle gorchmynnwyd Jeffrey Tawse i dalu £200,000. Gorchmynnwyd James Tawse i dalu £1,500.

Cynhaliodd Tîm Ymchwilio Rhanbarthol (Cymru) y Safonau Masnach Cenedlaethol ymchwiliad dwy flynedd o’r enw Operation Genesis i mewn i weithgareddau’r pâr ac roedd arweinydd y tîm, Andrew Bertie, yn hapus gyda’r dedfrydau a chanlyniadau’r gwrandawiad atafael enillion troseddau. 

 “Roedden ni wedi’n synnu gan yr hyn a ddysgon ni. Defnyddiodd y ddau ddyn dactegau gwerthu ymosodol i orfodi’r henoed a phobl agored i niwed i gytuno i waith yn eu cartrefi. Fe welon ni esiamplau o safonau gwael, gorbrisio a hyd yn oed dim gwaith yn cael ei wneud. 

 “Doedd dim esgus dros eu gweithredoedd ac rwy’n falch fod y ddedfryd yn cydnabod yr effaith ddifrifol a gawsant ar eu dioddefwyr.”

Canfuwyd yn ystod yr ymchwiliad dwy flynedd, rhwng Awst 2011 a Medi 2014, bod y ddau wedi honni gweithio fel cynrychiolwyr i Premier Drives, J&R South West Power Washing, General Landscape Gardening, General Jetwashing Services a Premier Jetwashing Services.

Nid oedd unrhyw un o’r busnesau hyn wedi’u cofrestru ac roedd yr holl fanylion cyswllt a roddwyd i ddefnyddwyr ar ddogfennau ac anfonebau yn ffug.

Effeithiwyd ar bymtheg o bobl, rhwng 50 a 97 oed, ar draws naw cyngor – Sir Fynwy, Blaenau Gwent, Caerfyrddin, Caerdydd, Abertawe, Merthyr Tudful, Torfaen a Rhondda Cynon Taf. Gyda’i gilydd fe gollon nhw fwy na £70,000.

Dywedodd Mr Bertie: “Cynigiodd y Tawses olchi a selio dreifiau a phatios yn ogystal â gosod tywod gwrth chwyn i atal tyfiant pellach. Honnent fod y gwaith wedi’i warantu am hyd at bum mlynedd a doedd y defnyddwyr ddim yn cael cyfle i ganslo.  

 “Fodd bynnag, ni chwblhawyd y gwaith i’r safon a addawyd. Mewn nifer o achosion, ni osodwyd unrhyw dywod ac mewn achosion eraill, golchwyd neu chwythwyr y tywod bant mewn tywydd gwael. Daeth y chwyn a’r tyfiant yn ôl o fewn amser byr i’r ardaloedd a oedd i fod heb chwyn am hyd at 5 mlynedd.”  

Fe welodd syrfëwr siartredig a archwiliodd y gwaith ar ran Safonau Masnach Cenedlaethol nad oedd unrhyw seliwr wedi'i ddefnyddio yn unrhyw un o'r cyfeiriadau ac, mewn rhai achosion, roedd dŵr halen wedi’i ddefnyddio.   Daeth i’r casgliad nad oedd y gwaith o unrhyw werth.

Rhoddodd Mr Bertie ddwy esiampl o achosion penodol:

  • Codwyd £1450 ar ddynes 83 mlwydd oed i wneud atgyweiriadau i’w tho.  Nid oedd y syrfëwr siartredig yn gallu dod o hyd i unrhyw dystiolaeth bod y gwaith wedi’i wneud.
  • Yng Nghastell-nedd, talodd un dyn £20,000 am wal frics tri chwrs o amgylch ei lawnt flaen.  Roedd y syrfëwr o’r farn, pe bai’r wal wedi’i hadeiladu i safon dderbyniol, byddai wedi costio rhwng £600 a £700.  Roedd safon y gwaith yn ofnadwy ac roedd o’r farn y dylai’r wal gael ei dymchwel.

Meddai’r Arglwydd Toby Harris, Cadeirydd, Safonau Masnach Cenedlaethol: “Mae’r ddedfryd hon yn anfon neges glir na fyddwn yn goddef yr ymdrechion bwriadol hyn i dwyllo cwsmeriaid – y mae llawer ohonynt yn agored i niwed - a hoffwn i longyfarch i'r holl bobl hynny sy'n rhan o ddod â'r ddau berson yma gerbron llys.

“Rwy’n annog unrhyw un sy’n amau gwaith sy’n cael ei wneud yn ei gartref, yng nghartref rhywun yn ei deulu neu yn ei gymdogaeth i gysylltu â’i adran safonau masnach leol neu linell cwsmeriaid Cyngor ar Bopeth ar 03454 040506.”

Cyn contractio unrhyw fath o wasanaeth proffesiynol, dylai cwsmeriaid gael o leiaf ddau ddyfynbris, ac aros 24 awr cyn penderfynu ar bwy a fydd yn gwneud y gwaith. Fel arfer mae argymhellion ar air gan deulu, ffrindiau a chymdogion yn lle da i ddechrau.

Yng ngwrandawiad Deddf Achosion Trosedd, clywyd i Jeffrey Tawse gael £200,000 o ganlyniad i’w droseddau ond yr oedd ganddo asedau o £12,449.33 ar gael fodd bynnag ystyriwyd bod ganddo asedau cudd o £187,550.67.

Gorchmynnwyd iddo dalu iawndal o £71,520 a £200,000 i’r llys. Byddai methu â gwneud hyn ymhen tri mis yn arwain at garchariad o dwy flynedd.

Cafodd James Tawse £52,297.55 ond roedd ganddo £1,500 ar gael a gorchmynnwyd iddo dalu dirwy o £1,500, byddai methu â thalu hyn ymhen tri mis yn arwain at ddedfryd ychwanegol o hyd at chwe mis.  Nid oedd yn rhaid iddo dalu unrhyw iawndal.                                

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.