Newyddion

Sefydliadau'n cydweithio i wneud Casnewydd yn ddinas groesawgar i bobl sydd â demensia

Wedi ei bostio ar Tuesday 13th June 2017
Dementia friendly city - PSB - May 2017

Mae aelodau Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Casnewydd, Casnewydd Yn Un, yn cydweithio i hybu ymdrechion i sicrhau bod Casnewydd yn ddinas groesawgar i bobl sydd â demensia.

Mae rhai partneriaid eisoes wedi cyflawni achrediad unigol, neu maen nhw am wneud hynny, drwy gynllun Cymdeithas Alzheimer, ond drwy weithio'n agosach y nod yw gwella gwasanaethau a dealltwriaeth o anghenion y sawl sydd â demensia yn gynt ac yn fwy cyson ledled y ddinas.

Oherwydd bod y boblogaeth yn heneiddio, mae heriau a chyfleoedd newydd mewn nifer o wasanaethau. Mae Demensia yn bryder sylweddol a nododd un o bob 14 o bobl sy'n hŷn na 65 oed eu bod nhw’n byw gyda'r cyflwr. Mae Cymdeithas Alzheimer, sy’n rhan o Weledigaeth Dementia Genedlaethol Cymru, yn amcangyfrif y bydd nifer y bobl sydd â demensia ledled Cymru’n cynyddu 31 y cant, a 44 y cant mewn rhai ardaloedd gwledig.  

Nid yw demensia’n effeithio ar yr unigolyn sy’n dioddef y cyflwr yn unig – mae hefyd yn gallu cael effaith sylweddol ar aelodau o’r teulu sy'n gofalu am anwyliaid.  Bydd yn effeithio ar bob aelod o'r gymdeithas ar ryw adeg – os nad y teulu agos, bydd yn effeithio ar aelodau o’r teulu estynedig neu ffrindiau.

Dros y flwyddyn ddiwethaf bu cynnydd sylweddol o ran codi ymwybyddiaeth o ddemensia, annog sefydliadau i fabwysiadu arferion sy’n ystyried pobl sydd â demensia, a rhoi cymorth i bobl sydd â demensia a’u gofalwyr.  

Mae cynnydd yn cynnwys datblygu grŵp gweithredu Dinas sy’n Ystyriol o Ddemensia (DYDd), a chyflwyno hyrwyddwyr DYDd ar lefel strategol gan gynnwys cynghorwyr, ACau ac ASau. Hefyd, mae grwpiau lleol yn rhoi llais cryf i ddioddefwyr demensia, er enghraifft caffis sy’n ystyriol o ddemensia a grwpiau gofalwyr, ac mae gwaith y partneriaid i gyd wedi codi proffil y materion hyn yn gyffredinol.

Yn ogystal â hynny mae sesiynau ymwybyddiaeth o ddementia hefyd wedi cael eu cynnal i roi gwell dealltwriaeth o ddemensia a sut beth yw byw gyda’r cyflwr. Ers Ebrill 2014, mae mwy na 2,000 o bobl wedi cymryd rhan mewn hyfforddiant ymwybyddiaeth gan ddod yn ffrindiau demensia ac mae bron i 40 o bobl wedi cwblhau sesiynau hyfforddi’r hyfforddwr er mwyn dod yn hyrwyddwyr demensia.  

Mae nifer o fusnesau a sefydliadau ledled Casnewydd wedi derbyn sesiynau ffrindiau demensia, gan gynnwys Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy, Cyngor Dinas Casnewydd, Derwen, Seren, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Heddlu Gwent.

Mae dod â chymunedau a chenedlaethau ynghyd yn allweddol o ran rhoi cymorth i bobl sy'n byw gyda demensia, ac Ysgol Uwchradd Gatholig Joseff Sant yw’r ysgol gyntaf yng Nghymru i gael ei hachredu’n ystyriol o ddemensia. Mae pob disgybl a phob aelod o staff wedi derbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth ffrindiau demensia. Yn sgil hynny bydd yr ysgol yn cynnal uwchgynhadledd er mwyn dod â disgyblion a phobl sydd â demensia ynghyd i ystyried ffyrdd y gall y cenedlaethau helpu ei gilydd.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd ac Aelod o’r Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus, y Cynghorydd Debbie Wilcox: “Mae pob un o bartneriaid y Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus yn gefnogol iawn ac maen nhw’n cydnabod bod modd i ni gael llawer mwy o effaith ledled y ddinas drwy gydlynu'n hymdrechion.

“Byddwn ni’n awr yn mynd ati’n ffurfiol i hybu ymdrechion i ddod yn ddinas sy’n ystyriol o ddemensia a byddwn ni’n sicrhau y caiff hynny ei gynnwys fel blaenoriaeth yng nghynllun lles newydd y ddinas.”

Dywedodd Phil Diamond, arweinydd thema demensia tîm trawsnewid Gwent: “Mae’n debygol y bydd demensia’n effeithio arnon ni ar ryw adeg a bydd pob un ohonon ni'n adnabod rhywun sy’n dioddef ohono, boed hynny yn awr neu yn y dyfodol. Mae ychydig o ymwybyddiaeth yn fodd i ni ddeall y gweithredoedd syml sy'n gallu helpu person sydd â demensia. Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Casnewydd yn arwain y ffordd ar gyfer partneriaid a busnesau eraill ledled y ddinas, a thrwy fuddsoddi yn ein cymunedau yn y presennol, gallwn ni ddarparu’r cymorth y bydd ei angen ar bob un ohonon ni yn y dyfodol."

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar gyfer Gwent, Jeff Cuthbert: “Mae Heddlu Gwent a’m swyddfa i wedi derbyn nod barcut swyddogol y Gymdeithas Alzheimer ar gyfer ‘Cymuned Ystyriol o Ddemensia’, i gydnabod ein hymrwymiad i roi cymorth i bobl sy’n byw gyda demensia. Rydyn ni’n gwbl gefnogol o’r cysyniad o fod yn Ystyriol o Ddemensia ac mae llawer o waith wedi’i wneud yn fewnol i sicrhau bod fy aelodau staff a swyddogion yn Heddlu Gwent yn deall yn llwyr yr heriau y mae pobl sy'n byw gyda demensia'n eu hwynebu, a'r goblygiadau ehangach a all fod ynghlwm wrth hynny. Mae hynny’n mynd law yn llaw â'r safonau uchel rydyn ni eisoes yn eu disgwyl gan bob un o'n cyflogeion o ran cyflawni gwasanaeth o ansawdd, gan ganolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig i'n cymunedau."

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Stephanie Blakemore, “Does dim byd yn peri mwy o bryder na gofid, na phan fo rhywun annwyl neu ffrind yn mynd ar goll, neu pan nad yw’n dod adref ar yr adeg arferol. Mae hyn yn eithaf cyffredin ar gyfer pobl sy’n byw gyda rhywun sydd â demensia, neu sy’n gofalu amdanynt. Cydnabûm fod angen ymateb mwy effeithiol i ddiogelu’n cymunedau drwy gydweithio â’n hasiantaethau partner. Ym mis Mawrth 2016, gweithredais brotocol newydd ar gyfer unigolion ar goll yn ymdrin yn benodol â phobl sy’n byw gyda Demensia ledled Gwent.

“Yn rhan o ‘Protocol Herbert’ (er cof am George Herbert, cyn-filwr Rhyfel a gymerodd ran yn y glaniadau yn Normandi, a fu’n byw gyda Demensia), gofynnir i ofalwyr, aelodau o’r teulu a ffrindiau lenwi ffurflen sy’n cynnwys holl fanylion hanfodol am yr unigolyn sydd â demensia, er enghraifft moddion sydd eu hangen arno, rhifau ffôn symudol, ble y daethpwyd o hyd iddo yn y gorffennol, neu luniau ohono. Wedyn bydd modd rhannu’r wybodaeth hon yn gyflym â'r asiantaethau perthnasol os bydd yr unigolyn yn mynd ar goll.

“Mae Protocol Herbert yn annog cartrefi gofal, gofalwyr, teuluoedd, ffrindiau neu gymdogion i gofnodi gwybodaeth am yr unigolyn sydd â demensia, a all fod o gymorth i’r heddlu i ddod o hyd iddo os bydd yn mynd ar goll.

“Mae ymchwil ar ddemensia'n dangos y bydd y sawl sy’n dioddef o’r cyflwr hwn yn aml yn ailymweld â lleoliadau a oedd yn arfer bod yn gyfarwydd iddyn nhw flynyddoedd maith yn ôl. Mae’r cynllun hwn yn ein galluogi ni i gynnal gwasanaeth cyflymach a mwy effeithiol, nid yn unig i’r unigolion ond hefyd i deuluoedd y sawl sy’n dioddef o’r cyflwr.”

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.