Safle tacsi newydd yn ei gwneud yn haws i ymwelwyr â chanol y ddinas gael tacsi
Wedi ei bostio ar Thursday 22nd June 2017
Gall ymwelwyr â Friars Walk yng Nghasnewydd bellach gael tacsi du wrth safle newydd gan Gyngor Dinas Casnewydd.
Lleolir y safle newydd ar y ffordd fynediad oddi ar Ffordd y Brenin rhwng Canol Casnewydd a Friars Walk ac mae man dynodedig ar gyfer Cerbydau Hacni (tacsis du) yn unig – nid cerbydau trwydded preifat.
Gall gyrwyr ollwng teithwyr ar gyfer Canol Casnewydd o hyd ond mae’n anghyfreithlon parcio ar hyd y ffordd ymadael honno.
Mae cyfyngiadau ar waith ond mae man mynediad y tu allan i ganol y ddinas ar gyfer danfoniadau.
Dywedodd y Cynghorydd Ray Truman, Aelod Cabinet dros Drwyddedu a Rheoleiddio y byddai’n helpu ymwelwyr â’r ddinas i gael safle tacsis dynodedig yn agos at Usk Plaza sy’n llawn bwytai a barrau.
“Mae’r safle tacsis hwn yn gwasanaethu rhan boblogaidd o’r ddinas gyda llawer o bobl yn mwynhau’r cyfleusterau yn Usk Plaza, Canol Casnewydd a’r Theatr Dolman sy’n agos.
“Ac mae’n rhoi rhagor o ddewis mwy i ymwelwyr o ran cael tacsis yma a rhywle arall ar draws y ddinas,” meddai’r Cyng Truman.