Parêd a Gwasanaeth Coffa D-Day 6 Mehefin 2017
Wedi ei bostio ar Friday 2nd June 2017
Bydd Parêd a Gwasanaeth Coffa D-Day, wedi’u trefnu gan Gymdeithas Frenhinol Cymrodyr Cymru, ddydd Mawrth 6 Mehefin.
Bydd Maer Casnewydd, y Cynghorydd David Fouweather, yn y digwyddiad i osod torch ar ran y Cyngor.
Bydd pobl sy’n cymryd rhan yn y parêd yn cwrdd y tu allan i Wetherspoons, Cambrian Road o 12.30pm a bydd y parêd yn gadael am 12.45pm gan gerdded i Heol Fawr, ar hyd Heol y Bont, i’r Gofeb D-Day lle bydd gwasanaeth byr.
Marsial y Parêd fydd Adam Church o Gatrawd 104 y Magnelwyr Brenhinol ar y cyd gyda Phil Taylor, ysgrifennydd cangen Casnewydd Cymdeithas Frenhinol Cymrodyr Cymru.
Bydd Arglwydd Raglaw Brigadydd Gwent, Robert Aitken, yr Uchel-Siryf, Kevin Thomas ac aelodau Cymdeithas y Cymrodyr yn bresennol hefyd.
Mae Parêd D-Day yn nodi’r dyddiad hanesyddol yn 1944 pan ymosododd byddinoedd morol, awyr a thir cynghreiriol ar Ffrainc oedd wedi’i feddiannu gan y Nazïaid.
Cyrhaeddon nhw draethau Normandi ar 6 Mehefin, a nododd ddechrau ymgyrch hir a gwaedlyd i ryddhau gogledd-orllewin Ewrop o feddiant yr Almaenwyr, ac a fu’n drobwynt yn yr Ail Ryfel Byd.