Newyddion

Cymuned yn cefnogi project arcêd

Wedi ei bostio ar Tuesday 27th June 2017

Mae ysgolion a gwirfoddolwyr yn chwarae rolau allweddol mewn cynllun i adfer yr arcêd hanesyddol Arcêd y Farchnad yng Nghanol Dinas Casnewydd.

Yn gynharach eleni, cafodd Cyngor Dinas Casnewydd gefnogaeth gan y Loteri Genedlaethol ar gyfer cynnig Treftadaeth Treflun gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (HLF). Nod y cynnig yw helpu i ddatblygu cynllun i adnewyddu'r arcêd.

Yn rhan o'r project, mae digwyddiad atgofion yn cael ei gynnal ym Marchnad Casnewydd rhwng 29 Mehefin ac 1 Gorffennaf. 

Mae pobl yn cael eu hannog i fynd ag unrhyw luniau, pethau cofiadwy neu ddogfennau ac i rannu eu hatgofion o'r arcêd sydd rhwng Heol Fawr a Market Street.

Bydd y digwyddiad yn agos at y fynedfa yn Upper Dock Street (ger gorsaf fysiau Market Street) o 9am i 4pm.

Mae'r grŵp treftadaeth lleol 'the Bodkins', a Chenhadon Casnewydd o gynllun Croeso i Gasnewydd y Cyngor yn cyfrannu at y prosiect, a byddan nhw wrth law yn ystod y tri diwrnod.

Mae Ysgol Gynradd Sant Gwynllyw, Ysgol Gynradd Millbrook, Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon ac Ysgol Gynradd Iau Dyffryn hefyd wedi bod yn rhan ohono.

Dywedodd Lynsdey Watlkins, pennaeth Ysgol Gynradd Millbrook: "Mae'r plant a'r staff wrth eu boddau'n dysgu am hanes rhan sylweddol o'u cymuned leol. Maen nhw wedi ymweld â'r safle, maen nhw wedi ymchwilio i'w hanes ac maen nhw wedi tafod pwysigrwydd gwaith adfer.

  "Mae'r plant yn llysgenhadon rhagorol i'n dinas ac rydyn ni wrthi'n ymchwilio i ffyrdd o ddangos cefnogaeth dros adfer harddwch naturiol ein dinas. Maen nhw'n cynllunio i gymryd rhan yn y digwyddiad atgofion ac maen nhw'n annog pobl eraill i gymryd rhan ac i ddweud eu dweud hefyd."

Mae £177,300 wedi'i ddyfarnu ar gyfer datblygu cynlluniau adfywio gyda'r bwriad hirdymor o roi bywyd o'r newydd i'r dramwyfa siopa.

Bydd y cynlluniau hyn yn sail i gais arall i Gronfa Treftadaeth y Loteri yn ddiweddarach yn flwyddyn am gynllun llawn.

Hoffai Cyngor Dinas Casnewydd ddiolch i'r sawl a gefnogodd y cynllun gan gynnwys y sawl sy'n chwarae'r Loteri Genedlaethol oherwydd bod eu cyfraniadau'n hollbwysig o ran helpu i sicrhau bod y weledigaeth ar gyfer Arcêd y Farchnad yn cael ei gwireddu.

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.