Newyddion

Mwy o bobl ifanc yn cael eu hyfforddi

Wedi ei bostio ar Thursday 8th June 2017

Bu gostyngiad o 75% yn nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant (NEET) o fewn y chwe blynedd diwethaf yn ôl adroddiad fydd gerbron cabinet Cyngor Dinas Casnewydd ar 14 Mehefin.   

Bydd yr aelodau hefyd yn clywed bod y cyngor dros y deuddeng mis diwethaf wedi gwneud cynnydd cadarnhaol wrth gyflawni ei amcanion o ran cydraddoldeb, ac yn gweithio’n galed i hybu cyfle cyfartal i bawb yn unol ag amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Yn eu cyfarfod bydd aelodau cabinet Cyngor Dinas Casnewydd yn clywed am y cynnydd wrth gyflawni’r naw Amcan Cydraddoldeb fel y’u hamlinellir yng Nghynllun Cydraddoldeb Strategol 2016.

Hefyd ar yr agenda mae’r gwaith y mae’r cyngor yn ei wneud gyda’i bartneriaid dan ymbarél yr Uned Gam-drin Domestig sy’n gweithredu fel hyb aml-asiantaeth yn cynnig gwasanaeth siop un-stop ar gyfer dioddefwyr.

Dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf roedd 3863 achos o gam-drin domestig yng Nghasnewydd, sy’n 33% o’r holl achosion yng Ngwent.  

Bu’r cyngor hefyd yn cydlynu 166 o Gynadleddau Amlasiantaeth Asesu Risg (MARAC) – mae hyn yn cynrychioli 42% o’r holl gynadleddau ledled Gwent.  

Mae’r awdurdod hefyd wedi gwneud cynnydd da wrth gydymffurfio â’r Safonau Iaith fel y’u hamlinellwyd gan Lywodraeth Cymru gyda chyllideb benodol, rheolaeth project a chynllun yn ei le i weithredu’r newidiadau angenrheidiol.   

Mae hynny yn golygu bod cynghorwyr ac uwch swyddogion yn hybu dwyieithrwydd, a staff rheng flaen yn cyfarch y cyhoedd yn ddwyieithog.

Mae’r adroddiad yn un o nifer fydd yn cael eu trafod gan aelodau’r cabinet ddydd Mercher, 14 Mehefin yn y Ganolfan Ddinesig, Casnewydd sy’n agored i’r cyhoedd.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.