Canfod Casnewydd a chymerwch ran yn yr Her Nenlinell
Wedi ei bostio ar Wednesday 12th July 2017
Canfod Casnewydd a chymerwch ran yn yr Her Nenlinell
Mae digwyddiad cerdded Canfod Casnewydd yn dychwelyd am yr ail flwyddyn ddydd Sadwrn 9 Medi a gwahoddir pobl i ddod i ganfod trysorau cudd cefn gwlad Casnewydd.
Mae Her Nenlinell Casnewydd yn cynnig llwybrau cerdded sy’n addas i bawb o bob lefel ffitrwydd a gallu.
Y llynedd cafwyd llawer o sylwadau cadarnhaol ynghylch y digwyddiad gan bobl a gymerodd ran gan gynnwys pa mor dda oedd yr arwyddion. Yn ogystal, canmolwyd y dewis o lwybrau am gynnwys cymysgedd o fryniau a llwybrau gwastad.
Mae’r teithiau tywys byrion fel arfer yn addas ar gyfer teuluoedd â phlant ifainc, yn amrywio o 1.5 milltir i 4.5 milltir, a dwy daith dywys hirach, 9 a 16 milltir ar gyfer y rhai a oedd am fynd ymhellach.
Mae pob taith yn dechrau ac yn gorffen yng Nghanolfan Byw’n Actif, Betws ac yn cynnig amgylchoedd syfrdanol sy’n eich galluogi i fwynhau ardaloedd gwledig amrywiol Casnewydd.
Dywedodd y Cynghorydd Deb Harvey, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, ei bod yn gobeithio y bydd y digwyddiad mor lwyddiannus â’r llynedd.
“Rwy’n gwybod nad oedd y tywydd yn dda y llynedd ond gwnaethom ni lwyddo i ddenu nifer da o gerddwyr o bob oedran oedd yn barod i ddelio gyda'r amodau.
“Roedd llawer o’r bobl a gymerodd ran yn yr her yn falch o'n dewis o lwybrau cerdded da a’r golygfeydd amrywiol a welsant ar y ffordd.
“Rwy’n siŵr y bydd llawer mwy o bobl yn cymryd rhan yn ail ddigwyddiad Canfod Casnewydd felly cofrestrwch nawr,” meddai’r Cyng. Harvey.
Mae modd cadw lleoedd ar gyfer yr Her Nenlinell yn awr yn www.newport.gov.uk/walktheport tan 27 Awst.
Ar gyfer yr holl lwybrau, dylech chi wisgo esgidiau cerdded call a dillad addas gan gynnwys dillad ar gyfer tywydd gwlyb rhag ofn.
Ar gyfer y llwybrau hirach dylech chi fod yn barod i gerdded ar draws caeau, camfeydd, llwybrau oddi ar y ffordd, trwy goedwigoedd ac i fyny nifer o fryniau mawr.
Bydd dŵr ar gael wrth fannau stopio ar y llwybrau ond sicrhewch fod gennych eich dŵr eich hun yn ogystal â ffrwythau a byrbrydau iach.
Mae’n bwysig bod cerddwyr yn dewis llwybr sy’n addas i’w lefel personol o ffitrwydd. Nid yw llwybrau byrrach yn golygu cerdded / rhedeg hawdd.
Ar ôl cadw eich lle ar gyfer her, anfonir cerdyn llwybr disgrifiadol yn ddigidol gyda’ch pecyn gwybodaeth yn rhoi cyfeirnodau grid ar gyfer mannau neu nodweddion allweddol, y math o dir fyddwch yn cerdded arno ac amcangyfrif o'r amser y dylech ei ganiatáu.
Dylai'r rhai hynny sy'n mynd ar eu pennau eu hunain fod yn gallu darllen map a dod o hyd i lwybrau.
Os byddwch yn cerdded mewn tîm, dylai fod un person yn eich grŵp sy'n gallu darllen map a dod o hyd i lwybrau.
Ar ôl i chi gofrestru ar gyfer taith gerdded, cadarnheir yr union lwybr ar ôl y dyddiad cau i ymgeiswyr.
Am wybodaeth am ddarllen map a chyfeirnodau grid ewch i wefan yr Arolwg Ordnans.
Rhaid i chi ddarllen telerau ac amodau Canfod Casnewydd (pdf) cyn cadw lle.
Noddir Her Nenlinell Canfod Casnewydd gan nifer o grwpiau a sefydliadau gan gynnwys:
E-bostiwch
[email protected][email protected] gydag unrhyw ymholiadau neu ffoniwch (01633) 851 588.