Newyddion

Ardal Gemau Rivermead nawr ar agor

Wedi ei bostio ar Tuesday 4th July 2017

Yn dilyn cyfarfod gyda chynghorwyr lleol, mae’n bleser gan Gyngor Dinas Casnewydd gyhoeddi y bydd Ardal Gemau Aml-Ddefnydd Rivermead yn ail-agor heddiw, ddydd Mawrth, 4 Gorffennaf.

Bu’r ardal chwarae ar gau am sawl wythnos oherwydd pryderon am iechyd a diogelwch ar ôl i rai paneli o’r ffens ddod yn rhydd.

Mae gwaith wedi’i wneud i sicrhau bod y paneli bellach yn ddiogel, a chaiff rhaglen cynnal a chadw ei rhoi ar waith yn ystod y chwe mis nesaf. 

Bydd yr AGADd ar agor rhwng 8.30am ac 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a rhwng 8.30am a 6pm ddydd Sadwrn a dydd Sul i helpu’r ceidwaid gyda’u dyletswyddau.

Bydd taflenni’n cael eu dosbarthu’n fuan i esbonio’r newidiadau i drigolion ac ar y rhain bydd rhifau ffôn i roi gwybod i wardeniaid diogelwch cymunedol am ymddygiad gwrthgymdeithasol. Y rhifau yw 01633 656656 o 8am i 6pm a 01633 656667 ar ôl 6pm, neu ffoniwch Heddlu Gwent ar 101 /  999 mewn argyfwng.

Mae wardeniaid diogelwch cymunedol Casnewydd wedi eu hachredu gan Heddlu Gwent, ac mae ganddyn nhw bwerau dan Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005.

Mae wardeniaid yn gallu mynd i’r afael â niwsans sŵn, sbwriel, baw ci, graffiti, tipio anghyfreithlon ac ysmygu mewn mannau cyhoeddus, a gallan nhw gymryd alcohol a sigarennau oddi wrthoch chi os oes angen.

Mae wardeniaid yn gweithio’n agos gyda thîm iechyd yr amgylchedd i ddelio â sŵn annymunol.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.