Newyddion

Iechyd Cyhoeddus Cymru: Achosion newydd o'r frech goch yn annog galwad am frechu MMR wrth i wyliau'r ysgol ddechrau

Wedi ei bostio ar Monday 24th July 2017

Gyda dau achos newydd o'r frech goch wedi'u cadarnhau mewn achos parhaus, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog rhieni i sicrhau bod eu plant yn cael eu diogelu wrth i wyliau ysgol yr haf ddechrau.

Mae'r ddau achos newydd o'r frech goch yn golygu mai cyfanswm nifer yr achosion a gadarnhawyd sy'n effeithio ar ardaloedd Casnewydd a Thorfaen yw 10.

Mae gwyliau haf dramor, digwyddiadau a gwyliau i gyd yn gyfle i'r frech goch ledu rhwng plant heb eu brechu.

Mae'r achos yn ardal Gwent wedi'i achosi gan yr un math o'r frech goch sydd wedi effeithio ar fwy na 14,000 o bobl ar draws Ewrop eleni ac sydd wedi lladd 35 o bobl.

Ceir risg gynyddol i blant heb eu brechu sy'n teithio i dir mawr Ewrop dros yr haf. Maent hefyd mewn perygl yma yng Nghymru os byddant yn dod i gysylltiad ag un o drigolion y DU neu ymwelydd o dramor sydd â'r frech goch.

Dywedodd Dr Rhianwen Stiff, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Gall dechrau gwyliau'r ysgol olygu bod plant yn dod i gysylltiad â phobl na fyddent fel arfer yn cyfarfod â hwy, naill ai ar wyliau neu mewn clybiau neu ddigwyddiadau mawr yma yng Nghymru.

"Gall y frech goch drosglwyddo'n hawdd rhwng pobl nad ydynt wedi'u brechu. Rydym yn annog rhieni yng Nghasnewydd, Torfaen a ledled Cymru i sicrhau bod eu plant yn cael y ddau ddos diweddaraf o MMR.

"Rydym hefyd yn atgoffa rhieni na ddylid mynd â phlant sydd â brech i'r feddygfa na'r adran damweiniau ac achosion brys heb ffonio ymlaen llaw yn gyntaf. Mae hyn yn bwysig er mwyn sicrhau y gellir rhoi trefniadau yn eu lle cyn ichi gyrraedd, er enghraifft fel nad ydych yn rhannu ystafell aros gyda babi bach. Rydym eisoes wedi gweld achosion o'r frech goch yng Ngwent lle mae plant a oedd yn rhy ifanc i gael eu brechu yn fwyaf tebygol o fod wedi'u heintio yn yr adran damweiniau ac achosion brys, ac mae hyn yn parhau i fod yn risg."

Dylai plant â symptomau'r frech goch - sy'n cynnwys tymheredd uchel, peswch, trwyn yn rhedeg, llygaid coch (llid pilen y llygad), a brech goch nodweddiadol - gael eu cadw gartref o'r ysgol, meithrinfeydd a digwyddiadau cymdeithasol fel clybiau gwyliau a phartïon pen-blwydd.

Dylai rhieni sy'n amau bod gan eu plentyn y frech goch gysylltu â'u meddyg teulu neu Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 am asesiad. Dylent dynnu sylw eu darparwyr gofal iechyd at y symptomau cyn mynd i unrhyw apwyntiad.

Mae'r frech goch yn heintus iawn a'r unig ffordd o atal achosion mawr yw drwy frechu. Dylai rhieni nad yw eu plant wedi cael y ddau ddos diweddaraf o MMR sicrhau eu bod yn cysylltu â'u practis meddyg teulu ar unwaith er mwyn trefnu'r brechlyn cyflym, diogel ac effeithiol hwn.

Yn ogystal, anogir oedolion a anwyd ers 1970, nad ydynt erioed wedi cael y frech goch na'r brechlyn MMR, i sicrhau eu bod yn cysylltu â'u meddygfa ynghylch brechu, yn enwedig os ydynt yn gweithio gyda phlant.

Mae'r dos cyntaf o MMR fel arfer yn cael ei roi i fabanod pan maent rhwng 12 a 13 mis oed a'r ail pan fyddant yn dair oed a phedwar mis, ond nid yw byth yn rhy hwyr i ddal i fyny ar ddosau a gollwyd.

Gall tua 1 o bob 5 o blant â'r frech goch brofi cymhlethdodau difrifol fel heintiau yn y glust, niwmonia neu lid yr ymennydd. Mae un o bob 10 o blant â'r frech goch yn gorfod mynd i'r ysbyty ac mewn achosion prin gall fod yn angheuol.

Ceir rhagor o wybodaeth am y frech goch, gan gynnwys dolen i dystiolaeth fideo gan fam y gwnaeth ei merch tair oed heb ei brechu gael y frech goch yn http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/tudalen/44195

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.