Canmoliaeth am wobr ailgylchu genedlaethol
Wedi ei bostio ar Tuesday 18th July 2017
Dymuna Cyngor Dinas Casnewydd longyfarch elusen Wastesavers, y pencampwyr ailgylchu, ar ennill gwobr genedlaethol yn ddiweddar.
Cafodd yr elusen, sy’n casglu deunydd ailgylchu oddi ar ymyl y ffordd yn y ddinas bob wythnos, ganmoliaeth benodol yn narlith flynyddol y Resource Association yn Llundain ac fe gyflwynwyd tlws iddynt am gyrraedd safon uchel o ailgylchu.
Dymuna Wastesavers a Chyngor Dinas Casnewydd ill dau ddiolch i breswylwyr am y rhan y maen nhw’n ei chwarae yn ailgylchu amrywiaeth o eitemau bob wythnos.
Mae safon uchel ein deunydd ailgylchu yn golygu bod modd ei ailwerthu a’i ailddefnyddio a thrwy hynny greu incwm ychwanegol i’r Cyngor.
Dywedodd y Cyng Roger Jeavons, yr Aelod Cabinet dros Strydlun, fod yr arian a gynhyrchwyd yn cyrraedd oddeutu £1m y mae modd ei roi nôl i wasanaethau’r Cyngor.
“Diolch i‘n preswylwyr sy’n ailgylchu’n rheolaidd bob wythnos. Dyma sydd wedi arwain at y wobr hon yn cael ei rhoi i Wastesavers.
“Yn ystod y 12 mis diwethaf mae Wastesavers wedi cyrraedd y safonau ansawdd sy’n ofynnol, ac sy’n cael eu cydnabod yn y diwydiant, gan lwyddo i beidio â chael unrhyw lwyth wedi ei wrthod sydd wedi arwain at fwy o eitemau yn cael eu hailbrosesu.
“Da iawn i bawb a chwaraeodd ran. Mae’n bluen yng nghap Wastesavers a’n preswylwyr,” meddai’r Cyng Jeavons.
Dywedodd Cadeirydd y Gymdeithas Adnoddau, Robbie Warden: “Ein pwrpas yn creu’r cynllun Gwobrwyon yma yw i bwysleisio yr arfer da a’r gwaith cadarnhaol sy’n cael ei wneud i gyrraedd deunyddiau ailgylchu o safon cyson uchel gan gyflenwyr i ailbroseswyr.
“Mae ansawdd ailgylchu yn fater sy’n parhau’n bwysig dros ben i ni ac roedden ni am roi llwyfan i’r gwaith da sy’n cael ei wneud ac i ddweud “diolch” i’r cyflenwyr sy’n haeddu cydnabyddiaeth a sylw am eu hymdrechion.”
Ar ran Wastesavers, dywedodd Phil Hurst: “Diolch i Gasnewydd am roi papur o ansawdd cystal i ni nes ein bod wedi ennill gwobr ansawdd genedlaethol!
“Mae’n braf cael cydnabyddiaeth am waith y preswylwyr a’n timau casglu ar lefel genedlaethol.”