Newyddion

Gwaith cynnal a chadw mawr ar Ffordd Ddosbarthu Deheuol (FDD) yr A48

Wedi ei bostio ar Tuesday 25th July 2017

Bydd Morgan Vinci Ltd, y cwmni sy'n rheoli'r FDD yng Nghasnewydd, yn cynnal gwaith ailadeiladu/gosod arwynebau newydd.

Disgwylir i'r gwaith ddechrau ddydd Llun 24 Gorffennaf 2017 gan barhau am saith wythnos.

Fodd bynnag, o ganlyniad i natur y gwaith, bydd tarfu ac mae Morgan Vinci yn ymddiheuro o flaen llaw am hyn.

Mae rhestr lawn o ffyrdd fydd ar gau tra bod y gwaith yn cael ei wneud ar wefan Cyngor Dinas Casnewydd o dan gwaith ffyrdd.

Mae dwy elfen i'r gwaith - gosod arwynebau newydd ac ailadeiladu.

Gwneir y gwaith gosod arwynebau newydd yn ystod yr wythnos dydd Llun i ddydd Gwener gan ddechrau am 7pm a gorffen am 5am. Bydd y ffordd ar gau a bydd gwyriadau lleol ar waith. Bydd y ffordd ar agor yn ystod y dydd o 5am tan 7pm.

Cylchfan Pont Ebwy i Gylchfan Maesglas (Gorllewin) - Dydd Llun 24 Gorffennaf 19:00 tan ddydd Mawrth 25 Gorffennaf 05:00.

Cylchfan Maesglas (Gorllewin) - Dydd Mawrth 25 Gorffennaf 19:00 tan ddydd Mercher 26 Gorffennaf 05:00

Cylchfan Gorllewin Maesglas i Gylchfan Dwyrain Maesglas - Dydd Mercher 26 Gorffennaf 19:00 tan ddydd Iau 27 Gorffennaf 05:00.

Cylchfan Heol yr Eglwys - Dydd Iau 27 Gorffennaf 19:00 tan ddydd Gwener 28 Gorffennaf 05:00. Ni fydd mynediad nac allanfa yn ystod y gwaith heblaw i gerbydau argyfwng.

Cylchfan Heol yr Eglwys i Gyffordd Doc yr Hen Dref - Dydd Llun 31 Gorffennaf 19:00 tan ddydd Mawrth 1 Awst 05:00.

Cylchfan Heol yr Eglwys i Gyffordd Doc yr Hen Dref - Dydd Mawrth 1 Awst 19:00 tan ddydd Mercher 2 Awst 05:00.

               

Corporation Road i Gylchfan Trefonnen - Dydd Mercher 2 Awst 19:00 tan ddydd Iau 3 Awst. Ni fydd mynediad nac allanfa yn ystod y gwaith ar Spytty Lane heblaw i gerbydau argyfwng.

Dydd Iau 3 Awst 19:00 tan ddydd Gwener 4 Awst 05:00 - Dim Gwaith Wedi'i Gynllunio

Cyffordd Doc yr Hen Dref - Dydd Llun 7 Gorffennaf 19:00 tan ddydd Mawrth 8 Awst 05:00.

Cylchfan Leeway - Dydd Mawrth 8 Awst 19:00 tan ddydd Mercher 9 Awst 05:00.

Cylchfan Balfe i Gylchfan Hartridge - Dydd Mercher 9 Awst 19:00 tan ddydd Iau 10 Awst 05:00.

Cylchfan Hartridge i Gylchfan Beatty - Dydd Iau 10 Awst tan ddydd Gwener 11 Awst 05:00.

Cylchfan Beatty (mynediad at SPTS) - Dydd Llun 14 Awst 19:00 tan ddydd Mawrth 15 Awst 05:00.

Cylchfan Balfe - Dydd Llun 21 Awst 19:00 tan ddydd Mawrth 22 Awst 05:00.

Cylchfan Maesglas (Gorllewin) i Gylchfan Pont Ebwy - Dydd Mawrth 22 Awst 19:00 tan ddydd Mercher 23 Awst 05:00.

Cylchfan Maesglas (Dwyrain) i Gylchfan Maesglas (Gorllewin) - Dydd Mercher 23 Awst 19:00 tan ddydd Iau 24 Awst 05:00.

Cylchfan Trefonnen i Gyffordd Corporation Road - Dydd Iau 24 Awst 19:00 tan ddydd Gwener 25 Awst 05:00.

Cylchfan Balfe i Gylchfan Leeway - Dydd Mawrth 29 Awst 19:00 tan ddydd Mercher 30 Awst 05:00.

Cylchfan Beatty i Gylchfan Hartridge - Dydd Mercher 30 Awst 19:00 tan ddydd Iau 31 Awst 05:00.

Gwneir gwaith ailadeiladu ddydd Gwener 8pm tan ddydd Llun 5am, bydd ardal y gwaith ar gau trwy ddydd Sadwrn a dydd Sul, eto bydd gwyriadau ar waith. Mae'r ardal ailadeiladu yn cynnwys y cyffyrdd canlynol.

Cyffordd Dociau (Alexandra Road) - Dydd Gwener 28 Gorffennaf 19:00 tan ddydd Llun 31 Gorffennaf - bydd y ffordd gyfan yn cau, a bydd gwyriad lleol. Bydd mynediad i'r Doc drwy Westfield Way.

Cyffordd Doc yr Hen Dref - Dydd Gwener 4 Awst 19:00 tan ddydd Llun 7 Awst 05:00 - bydd y ffordd gyfan yn cau, a bydd gwyriad lleol.

Cyffordd Corporation Road - Dydd Gwener 11 Awst 19:00 tan ddydd Llun 14 Awst 05:00 - bydd y ffordd gyfan yn cau, a bydd gwyriad lleol.

Cylchfan Balfe - Dydd Gwener 18 Awst 19:00 tan ddydd Llun 21 Awst 05:00 - bydd y ffordd gyfan yn cau, a bydd gwyriad lleol.

Cylchfan Beatty i Gylchfan Coldra (bydd modd defnyddio'r ddwy gylchfan) - Dydd Gwener 1 Medi 19:00 tan ddydd Llun 4 Medi 05:00 - bydd y ffordd gyfan yn cau, a bydd gwyriad lleol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y gwaith ffoniwch Morgan Vinci Ltd ar 01633 656656 i drafod neu e-bostiwch [email protected].

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.