Newyddion

Dirwy i gwmni o Lundain o fwy na £53,833 am adael i adeilad TJ's fynd a'i ben iddo

Wedi ei bostio ar Thursday 6th July 2017

Mae’r cwmni o Lundain sy’n berchen ar hen glwb TJ’s yn Clarence Place wedi ei erlyn yn llwyddiannus gan Gyngor Dinas Casnewydd am adael i’r adeilad ddirywio.

Cafodd y cwmni sy’n berchen ar yr adeilad, 121 Ventures, ei gyfarwyddwyr a’i ysgrifennydd orchymyn i dalu dirwyon a chostau llys o fwy na £53,833 yn dilyn gwrandawiad yn Llys Ynadon Casnewydd (2 Gorffennaf).

Cyflwynodd Cyngor Dinas Casnewydd yr achos mewn perthynas ag achos o beidio â chydymffurfio â hysbysiad gorfodi Adeilad Rhestredig a hysbysiad Adran 215 (tir diolwg) yn adeilad hen glwb TJ’s.

Derbyniodd y cwmni 121 Ventures Limited ddirwy o £25,000 am y drosedd adeilad rhestredig; dirwy o £1,000 sef y ddirwy uchaf y gellir ei roi mewn perthynas â hysbysiad Adran 215, ardoll dioddefwr o £170, a gorchymyn i dalu costau’r Cyngor o £1493.95. £27,663.95 yw’r cyfanswm y mae’n rhaid ei dalu erbyn 28 Gorffennaf 2017.

Cafodd Omar Saleem Aslam, un o gyfarwyddwyr y cwmni ac ysgrifennydd iddo, ddirwy o £25,000 am y drosedd Adeilad Rhestredig, y ddirwy uchaf am hysbysiad Adran 215 (£1,000) ac ardoll dioddefwr o £170. Dyma gyfanswm o £26,170 o gostau a dirwyon i’w dalu erbyn 28 Gorffennaf 2017.

Methodd cyfarwyddwr arall, Mohammed Iqbal Hussain, ag ymddangos gerbron y llys a chyhoeddwyd gwarant i’w arestio.

Clywodd y llys bod yr adeilad hwn yn adnabyddus iawn yng Nghasnewydd, ond y bu’n wag ers cyfnod sylweddol a bod ei olwg yn dirywio.

Ni chydymffurfiwyd â dau hysbysiad. Mae’r Hysbysiad Gorfodi Adeilad Rhestredig yn mynnu bod y diffynyddion yn  atgyweirio ac ailosod neu newid y teils clai coch ar y to sydd ar goll neu sydd wedi eu difrodi ar flaen a chefn yr adeilad, a’u bod yn atgyweirio ac ailosod neu adnewyddu’r gwaith sêl blwm sydd ar goll neu sydd wedi ei ddifrodi.

Mae’r Hysbysiad Adran 215 yn mynnu bod y diffynyddion yn atgyweirio neu ailosod y gwaith gwydr yn yr eiddo sydd wedi torri neu sydd ar goll, eu bod yn gwaredu’r holl blanhigion o flaen a chefn y ffasâd, a’u bod yn clirio’r holl sbwriel o'r tir yn dilyn hynny. Rhaid iddyn nhw glirio planhigion o’r to a thrwsio’r cornis uwchben yr astell dywydd ar y tu blaen.

Clywodd y llys fod y diffynyddion wedi methu â chwblhau unrhyw waith atgyweirio ar yr adeilad eiconig hwn a’u bod wedi anwybyddu hysbysiadau’r Cyngor a’r achos llys yn llwyr drwy fethu â mynd i wrandawiadau blaenorol.

Yn ogystal â hynny, methon nhw â chwrdd â swyddogion ar sawl achlysur i drafod cyflwr yr adeilad.



More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.