Newyddion

Datgelu manylion am werthu Friars Walk

Wedi ei bostio ar Wednesday 12th July 2017
FriarsWalkOpening-small

Mae manylion llawn am broses lwyddiannus Queensberry Real Estate i werthu Friars Walk bellach ar gael yn gyhoeddus.

Mae adroddiad sy’n nodi telerau ac amodau’r gwerthiant, a fydd yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod Cyngor Dinas Casnewydd yr wythnos nesaf, bellach wedi’i gyhoeddi.

Roedd angen cadw gwybodaeth ariannol a chyfreithiol yn fasnachol gyfrinachol nes y cafodd y gwerthiant ei gwblhau.

Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn cynnwys dadansoddiad manwl o’r gwerthiant ac yn dangos mai bargen Talisker a gynigiodd y gwerth gorau gan ei bod yn galluogi’r Cyngor i dalu’n llawn ei gostau benthyca i ariannu'r benthyciad i Queensberry i ddatblygu’r cynllun manwerthu a hamdden hirddisgwyledig.

Mae’r Cyngor wedi mynd i gostau o tua £82 miliwn o ran costau benthyca a llog er mwyn ariannu’r benthyciad datblygu a derbyniodd anfoneb gyfalaf net o tua £84.5 miliwn ar ôl cwblhau’r gwerthiant a dalodd benthyciad a llog Queensberry yn llawn.

Er bod y benthyciad a’r llog a gronnwyd wedi’u talu'n llawn yn dechnegol, bydd cytundeb rhent a rennir gyda Talisker yn sicrhau y caiff y tâl llog llawn sy’n ddyledus ei ad-dalu.  

Yn rhan o’r bartneriaeth barhaol hon gyda Thalisker, mae’r Cyngor hefyd wedi ymrwymo i gyfrannu cymhorthdal o hyd at £500k y flwyddyn tuag at yr incwm rhent, ond dylai hyn fod yn angenrheidiol am yr ychydig o flynyddoedd cyntaf yn unig a bydd y Cyngor yn cael rhan o dwf yn y dyfodol.

Dros flynyddoedd yn y dyfodol, bydd yn Cyngor yn derbyn £7.5 miliwn ychwanegol o ganlyniad i’r cytundeb rhent a rennir, sy’n creu elw o tua £92 miliwn.

Gofynnir i’r Cabinet nodi a chymeradwyo cynnwys yr adroddiad. Mae’r adroddiad llawn ar dudalennau’r Cyngor a’r tudalennau democratiaeth yn www.newport.gov.uk

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.