Newyddion

Beicwyr yn meddiannu'r strydoedd y penwythnos hwn

Wedi ei bostio ar Wednesday 5th July 2017
Velothon-2015_shutterstock_17316652

Cofiwch y bydd Felothon Cymru’n mynd drwy Gasnewydd ddydd Sul (9 Gorffennaf), a gwneud drefniadau’n unol â hynny.

Disgwylir i filoedd i feicwyr gymryd rhan yn nigwyddiad Felothon Cymru 2017.

Mae’r digwyddiad fydd yn cau 140km o ffyrdd yng ngolygfeydd harddaf a ffyrdd mwyaf heriol De Cymru, hefyd yn mynd drwy Gasnewydd.

Mae manylion llawn y ffyrdd sydd ar gau yng Nghasnewydd, Caerdydd, Sir Fynwy, Torfaen a Chaerffili ar wefan Felothon Cymru. www.velothon-wales.co.uk

Er mwyn sicrhau diogelwch i feicwyr, bydd angen cau ffyrdd a chyflwyno cyfyngiadau parcio ar hyd y llwybr, sy'n cynnwys rhannau o Gasnewydd a Chaerllion. 

Bydd system cau ffyrdd dreigl yn golygu y bydd modd ail-agor rhannau o’r llwybr rhwng y beicwyr amatur a phroffesiynol fydd yn rhoi cyfle i bobl symud i ffwrdd o’r digwyddiad os oes angen.

Ni fydd unrhyw ffordd ar gau gydol y dydd. 

Ewch i www.newport.gov.uk/velothon i gael rhagor o wybodaeth.

Dylai trigolion Casnewydd hefyd gofio, oherwydd y ffyrdd fydd ar gau i’r Felothon, na fydd y Ganolfan Gwastraff y Cartref ac Ailgylchu ar agor tan hanner dydd ar ddydd Sul 9 Gorffennaf a bydd yna’n cau’n hwyrach na’r arfer am 6pm i roi cyfle i drigolion gael mynediad i’r safle.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.