Newyddion

Ymgynghori â'r cyhoedd ar gynlluniau Teithio Llesol

Wedi ei bostio ar Monday 3rd July 2017
Cyle path canal newport

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gofyn i breswylwyr gymryd rhan mewn arolwg i ddod o hyd i’r hyn y dymunant ei gael gan lwybrau beicio a cherdded yn y ddinas.

Mae’r cyngor wedi ymrwymo i Ddeddf Teithio Llesol Llywodraeth Cymru ac i gynnig cynlluniau sy’n hyrwyddo bywydau iach. Rydym wedi cwrdd â phreswylwyr eisoes mewn cyfres o weithdai ar ddiwedd 2016 ac yn gynharach eleni.

O ganlyniad mae’r cyngor bellach wedi cynhyrchu Mapiau Rhwydwaith Integredig (MRhI) ac yn awyddus i breswylwyr i roi sylwadau ar y rhain drwy gyfrwng yr arolwg y gellir dod o hyd iddo ar ein gwefan yma  www.newport.gov.uk/ymgynghoriadau

Mae Casnewydd yn dechrau gweld buddion sylweddol i’r Rhwydwaith Teithio Llesol ac ers i’r Ddeddf ddod i rym, yn ystod 2014, mae’r cyngor, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, wedi cwblhau cyfres o brojectau gan gynnwys:

  • Llwybr beicio ‘rhyng-ddinesig’ 6km o hyd rhwng Casnewydd a Chaerdydd dros Wastatiroedd Gwent
  • llwybr oddi ar y ffordd i gerdded a beicio ar hyd yr SDR a hen ffordd y gwaith dur, gan fynd â defnyddwyr bron hyd at y ffin â Sir Fynwy.
  • Mae Project Canolog a Deheuol Cylchol y Ddinas yn galluogi trigolion Llyswyry, Pilgwenlli, Fictoria a’r tu hwnt i gyrchu gwasanaethau canolog canol y ddinas, Friars Walk, gorsafoedd trenau a bysys, Parc Glan-Yr-Afon a Theatr Glan-yr-Afon, ar hyd llwybr sydd heb draffig o gwbl.
  • Mae tair pont newydd wedi’u cynnwys bellach yng nghynllun Maes Hamdden Llyswyry sy’n cynnig llwybr defnydd ar y cyd sy’n addas i gerddwyr a beicwyr ac i ategu’r gwaith i uwchraddio cyfleusterau chwaraeon a hamdden yn yr ardal.
  • gwaith gwella ar Lôn Betws i greu llwybr oddi ar y ffordd ar gyfer cerddwyr a beicwyr ar ochr ogleddol y lôn, gyda chroesfannau newydd yn cysylltu llwybrau camlesi â'i gilydd a hefyd ag Ysgol Uwchradd Casnewydd.
  • Cyllid ar gyfer gwaith yn Crindau a Shaftesbury i wella’r llwybr rhwng canol y ddinas a’r anheddau i’r gogledd o Gasnewydd.

Rydym wrthi nawr yn cynllunio gwaith ar gyfer y 15 mlynedd nesaf ac am gael eich syniadau!

Bydd yr ymgynghoriad ar y wefan yn mynd yn fyw am 12 wythnos o 3 Gorffennaf i 25 Medi 2017.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.