Newyddion

Llongyfarch prentisiaid y Cyngor ar eu llwyddiant

Wedi ei bostio ar Friday 7th July 2017
All apprentices july 4

Mae deg prentis sydd wedi cwblhau cymwysterau ffurfiol gyda Chyngor Dinas Casnewydd wedi’u llongyfarch ar eu llwyddiant gan yr Arweinydd y Cynghorydd Debbie Wilcox.

Dewiswyd y bobl ifanc o ymhlith mwy na 1,000 o ymgeiswyr a wnaethpwyd cais i gofrestru ar gyfer y Prentisiaethau ym mis Medi y llynedd.

Ers hynny, maent wedi cael swyddi yn y Cyngor ac wedi cael y cyfle i ennill nifer o gymwysterau cydnabyddedig a sgiliau hanfodol tra'n ennill profiad gwaith a chyflog ar yr un pryd.  Mae naw ohonynt wedi ennill cymhwyster Gweinyddu Busnes Lefel 2 ac mae un wedi ennill cymhwyster AAT lefel 2.

Dywedodd y Cynghorydd Wilcox: “Yn gyntaf, hoffwn i longyfarch y bobl ifanc am gwblhau eu cymwysterau ffurfiol, rwy’n gwybod nad yw’n hawdd cyfuno astudio ar gyfer cymhwyster â gwaith llawn amser ond mae’r bobl ifanc wedi cydbwyso eu gwaith a’u dysgu ac wedi cwblhau’r cymhwyster hwn mewn dim ond wyth mis yn lle’r cyfnod arferol o 12 mis.

“Mae’r prentisiaid wedi bod yn grŵp eithriadol o bobl ifanc. Maent wedi dysgu gennym ni ac rydym ni wedi dysgu ganddyn nhw hefyd.  Maent wedi datblygu dealltwriaeth a phrofiad o’r gweithle, ennill cymhwyster ffurfiol a dysgu sgiliau bywyd megis pwysigrwydd cadw amser, gweithio gydag eraill a chyfathrebu.

“Nid oes modd rhoi gormod o werth ar brentisiaethau.  Fel sefydliad rydym wedi manteisio ar eu brwdfrydig a’u hymroddiad ac mae’n bwysig ein bod ni, fel sefydliad mawr, yn creu cyfleoedd ar gyfer pobl ifanc. Os nad ydyn yn creu’r cyfleoedd hyn ac yn datblygu pobl ifanc a'u profiad, yna bydd ein cymdeithas yn methu.  

“Dymunaf bob lwc i’r bobl ifanc ar gyfer y camau nesaf y byddant yn eu cymryd.”

Darparwyd yr agweddau hyfforddi ar y cynllun gan ACT. Mae’r Cyngor hefyd wedi cynnig hyfforddiant ychwanegol megis Hyfforddiant TG, cyflwyniad i gydraddoldeb, diogelwch gwybodaeth i ddiwrnod gwirfoddoli yn Safle RSPB Wetlands

Meddai Carley Dowding, 22, oedd yn rhan o’r tîm addysg:  “Mae gweithio yn y Cyngor wedi bod yn brofiad ardderchog.  Rwyf wedi cael cymaint o gymorth ac anogaeth.  Rwyf wedi bod yn eithriadol lwcus i gael swydd yn y Cyngor ar ôl y brentisiaeth ac rwy'n gyffrous i barhau â fy nhaith.

“Gwnaeth y brentisiaeth hon newid cyfeiriad fy mywyd; mae wedi fy ngalluogi i gael swydd na fyddwn wedi ei chael fel arall.  Rwyf wedi ennill cymhwyster a chyflogaeth a byddwn yn ei argymell i unrhyw un, ni waeth ei oedran, ni waeth y sgiliau sydd ganddo ar hyn o bryd.”

Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn cyflogi mwy o brentisiaid trwy'r haf a'r hydref.  

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.