Ffair Swyddi Celtic Manor Resort - 20 Gorffennaf
Wedi ei bostio ar Tuesday 11th July 2017
Mae Cyngor Dinas Casnewydd a gwesty pennaf y ddinas wedi dod ynghyd i gynnal ffair swyddi yng Glan yr Afon ar 20 Gorffennaf.
Bydd amrywiaeth o gyfleoedd ar gael gan fod Celtic Manor Resort yn chwilio am unigolion i ymuno â'u tîm sy'n rhoi pobl yn gyntaf ac sy'n awyddus i gynnig "profiad gwych i gwsmeriaid".
Mae'r gwesty pum seren hwn yn chwilio am ben-cogyddion, barmyn, asiantau llogi ystafelloedd, arbenigwyr harddwch, staff cynadleddau a gwleddoedd, staff gweini a chadw tŷ.
Cofrestrwch ar-lein ar gyfer y ffair swyddi a gynhelir rhwng 11am a 7.30pm yn www.celtic-manor.com/careers neu galwch heibio yn ystod y dydd gyda CV a Cherdyn Adnabod.