Newyddion

Perchennog siop prydau parod fochaidd yn cael dirwy o £1400 a gwaharddiad rhag cadw busnes o'r fath am ddwy flynedd

Wedi ei bostio ar Tuesday 17th January 2017

Mae perchennog tecawê yng Nghasnewydd, oedd yn gweini bwyd o geginau mochaidd lle roedd cig yn cael ei gadw mewn oergelloedd a rhewgelloedd llawn llwydni, wedi ei wahardd rhag rhedeg busnes o'r fath am ddwy flynedd.

Arestiwyd Aamir Hassan, perchennog Shahbaz Tikka ar Commercial Road yn y Pil, a daethpwyd ag ef i’r llys ar ôl iddo fethu gwrandawiadau blaenorol.

Ar ôl clywed am gyflwr ofnadwy y lleoliad a methiant Mr Hassan i gynnal safonau glendid sylfaenol, gwnaeth yr ynadon y penderfyniad anarferol o gyflwyno Gorchymyn Gwahardd dan Reol 7 Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006, sy’n gwahardd Mr Hassan rhag rheoli busnes bwyd am ddwy flynedd.

Anaml iawn y defnyddir y gosb hon ac mae’n dangos cymaint yr oedd y llys yn poeni am gyflwr annerbyniol y lleoliad.

Yn ogystal â’r gwaharddiad, cafodd Mr Hassan ddirwy o £1,400 ar ôl pledio'n euog i saith trosedd hylendid bwyd pan ymddangosodd yn Llys Ynadon Casnewydd ar Ddydd Mercher 11 Ionawr, yn sgil ymchwiliad gan swyddogion iechyd yr amgylchedd Cyngor Dinas Casnewydd.

Daeth yr ymchwiliad yn sgil cwyn gan aelod o’r cyhoedd ym mis Mehefin y llynedd.

Pan ymwelodd swyddogion â’r lleoliad, gwelon nhw loriau a waliau budr, a llawer o olion bwyd, llwch siarcol a saim ar hyd y mannau paratoi a choginio bwyd.

Roedd offer a oedd yn dod i gysylltiad â bwyd, megis cyllyll a byrddau torri, yn frwnt ac yn llawn saim, olion hen fwyd a baw.

Roedd oergelloedd a rhewgelloedd oedd yn cael eu defnyddio ar gyfer bwydydd risg uchel hefyd yn frwnt ac yn llawn llwydni.

Roedd Mr Hassan hefyd wedi methu â darparu cynnyrch glanweithio a diheintio neu unrhyw gemegau glanhau addas eraill yn y lleoliad, a gwelwyd bod offer glanhau megis llieiniau, brwsys a mopiau hefyd yn fudr.

Roedd y lleoliad yn gyffredinol islaw safonau angenrheidiol y gyfraith hylendid bwyd.

Yn ogystal â’r ddirwy a’r gwaharddiad am ddwy flynedd, gorchmynnwyd Mr Hassan hefyd i dalu costau o £1,450 i Gyngor Dinas Casnewydd a thâl dioddefwr o £30.

Mae’r busnes nawr wedi cau.

Dywedodd y Cynghorydd Bob Poole, yr Aelod Cabinet dros Swyddogaethau Rheoleiddio, ei fod yn brawychu rhag dihidrwydd Mr Hassan am reolau hylendid a thalodd glod i swyddogion iechyd yr amgylchedd am eu hymchwiliad trylwyr a ddaeth â Mr Hassan i’r llys.

“Roedd hon yn drosedd ddifrifol yn erbyn rheoliadau hylendid bwyd ac mae’n gwbl briodol bod yr ynadon, a oedd wedi eu syfrdanu gan gyflwr ofnadwy’r busnes, wedi gwahardd Mr Hassan - cosb na ddefnyddir yn aml iawn.

“Gobeithiwn y bydd hyn yn dangos i bobl ledled y ddinas y byddwn yn ymchwilio i unrhyw gwynion bod busnesau sy'n darparu bwyd i'r cyhoedd yn methu yn eu dyletswydd gofal," dywedodd y Cynghorydd Poole.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.