Newyddion

Cyfle i ddweud eich dweud ar faterion ym Mhillgwenlli

Wedi ei bostio ar Tuesday 10th January 2017

Mae Cyngor Dinas Casnewydd, Heddlu Gwent a phartneriaid Casnewydd yn Un (Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus y ddinas) yn cydweithio i leihau troseddu, yr ofn o drosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ardal Pillgwenlli yn y ddinas.

Fel rhan o’r gwaith hwn, mae gennym ddiddordeb mewn gwybod beth mae pobl yn ei feddwl yw'r prif broblemau, beth sydd angen ei wneud, a sut mae pob un o'r asiantaethau cyfrifol yn ymateb ar hyn o bryd. Yn benodol, hoffem glywed barn y bobl sy’n byw a gweithio ym Mhillgwenlli.

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: “Mae ymgysylltu â’r gymuned leol, grwpiau a masnachwyr yn rhan allweddol o fynd i’r afael ag unrhyw broblemau. Rwy’n annog pobl i ddweud eu dweud fel y gallwn ni a’n partneriaid gymryd y camau mwyaf priodol i wella’r rhan hon o’r ddinas.”

Mae’r holiadur yn ddienw a bydd yn helpu i lywio strategaeth i wella diogelwch cymunedol yn yr ardal.

I gymryd rhan ewch i www.newport.gov.uk/haveyoursay

Bydd yr arolwg yn rhedeg tan 3 Chwefror 2017.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.