Newyddion

Cytundeb Dinesig – camau nesaf wedi'u cymeradwyo gan Gyngor Dinas Casnewydd

Wedi ei bostio ar Tuesday 31st January 2017
City Deal image Cymraeg

Heddiw mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi cytuno i fod yn rhan o'r rhaglen Cytundeb Dinesig, ac i gefnogi'r cynllun a fydd yn buddsoddi £1.2biliwn yn yr economi rhanbarthol.

Bydd y Cytundeb Dinesig yn helpu i roi hwb i dwf economaidd mewn deg ardal awdurdod lleol gan gynnwys Casnewydd trwy wella cysylltiadau trafnidiaeth, gwella sgiliau, helpu pobl i gael swyddi a rhoi cymorth i fusnesau y mae ei angen arnynt i dyfu.

Bydd hefyd yn creu llywodraethu cryf ar gyfer y rhaglen waith trwy Gabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Trwy hyn, mae arweinwyr y deg awdurdod lleol i wneud penderfyniadau ar y cyd, rhannu adnoddau a phartneru â busnesau.

Yn ogystal â llofnodi'r Cytundeb Penawdau’r Telerau rhwng y cynghorau sy’n rhan o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd (P-RC), rhaid i bob un o’r awdurdodau lleol gymeradwyo Cabinet Rhanbarthol yn cynnwys arweinwyr awdurdod lleol perthnasol yn ffurfiol. Rhaid i’r Cabinet Rhanbarthol, nad oes ganddo awdurdod swyddogol ar hyn o bryd, gael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Wedi hynny, bydd yn goruchwylio twf economaidd a chynigion y rhanbarth dan y Fargen Ddinesig.

Mae’r Cytundeb Dinesig yn cynnwys rhaglen fuddsoddi o £1.2biliwn yn yr economi ranbarthol, gan gynnwys £734m ar gyfer creu cynllun trafnidiaeth Metro De-ddwyrain Cymru. Rhaid i bob awdurdod gymeradwyo ymrwymiad gan y deg awdurdod i fenthyg cyfanswm o £120miliwn dros fywyd 20 mlynedd y project.

Yng nghyfarfod llawn y Cyngor heddiw, siaradodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, Debbie Wilcox, am bwysigrwydd y fargen hon a’r cyfleoedd y mae’n eu creu ar gyfer Casnewydd a’r ardal ehangach:

“Mae cydweithredu agos a phartneriaeth rhwng y deg awdurdod lleol wrth graidd llwyddiant Bargen Ddinesig.  Rwy’n falch bod fy nghydweithwyr o bob plaid wleidyddol wedi dangos eu cefnogaeth heddiw am yr hyn sy’n addo ysgogi newid cenhedlaethol yng Nghasnewydd a’r holl ranbarth.

“Rydym bellach yn gallu cynllunio ymlaen llaw gyda dau ddegawd o fuddsoddiad economaidd dynodedig.  Edrychaf ymlaen at weithio’n agos gyda chyd-arweinwyr i wneud y fargen yn llwyddiannus a bod yn rhan o dîm a fydd yn creu arloesedd, buddsoddiad a datblygiad.”

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.