Newyddion

Rhybudd am ddefnyddio cwmnïau casglu sbwriel heb eu trwyddedu

Wedi ei bostio ar Thursday 16th February 2017
PIN Logo

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cynghori trigolion i gadarnhau manylion gweithredwyr sy'n cynnig mynd â'ch sbwriel nad ydych ei eisiau - ac yna ei ddympio'n anghyfreithlon.

Mae rhybudd yn dod ar ôl achos llys pan dalodd trigolyn Casnewydd Kieron Kenny £50 i ‘ddyn mewn fan’ i waredu sbwriel ei gartref ar ei ran, ond yn lle gwaredu’r sbwriel yn gyfreithlon, dympiodd y gweithredwr heb drwydded y gwastraff.

Ar ôl ymchwiliad gan dîm gorfodi gwastraff Balchder yng Nghasnewydd y Cyngor, daethpwyd o hyd i’r sbwriel wedi'i dipio'n anghyfreithlon yn Chapel Road, Casnewydd.

Aeth swyddogion i’r safle a chwilio’r gwastraff.  Gwelwyd nodyn danfon gan B&Q wedi’i gyfeirio at Mr Kenny yn Chepstow Road.

Pan gyfwelodd swyddogion â Mr Kenny cadarnhaodd fod gwaith yn cael ei wneud yn ei eiddo a’i fod am waredu'r gwastraff ar ei safle.

Dywedodd i ddyn mewn fan cludo gwyn gydag ôl-gerbyd stopio a dywedodd y byddai'n gwaredu'r sbwriel am £50. Dywedodd wrth Mr Kenny fod trwydded ganddo, fodd bynnag, ni allai Mr Kenny roi mwy o fanylion a chafodd ei erlyn yn Llys Ynadon Cwmbran.

Plediodd Mr Kenny yn euog cyn gynted â phosibl i achosi gwastraff a reolir, sef blychau, bagiau, unedau cegin a gwastraff adeilad cyffredinol yn fwriadol i gael ei adael ar dir sef Chapel Road, Trefonnen, Casnewydd, heb awdurdod trwydded amgylcheddol gyfredol wedi’i chyhoeddi dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Yn groes i adran 33 (1)(a), (6) a (8) Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.  

Hefyd plediodd yn euog i ail gyhuddiad o fethu â chydymffurfio â'r ddyletswydd wedi'i gosod gan adran 34(1)(c) a (6) Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 trwy dorri eich dyletswydd i ofalu fel person sy’n cludo neu waredu gwastraff a reolir i gymryd yr holl fesurau sy’n berthnasol iddo yn y rhinwedd hwnnw fel sy’n rhesymol mewn amgylchiadau trosglwyddo gwastraff i sicrhau y trosglwyddir gwastraff i berson awdurdodedig neu berson at ddibenion trafnidiaeth awdurdodedig yn unig. Yn groes i adran 34 (6) Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990

Ar ôl clywed y manylion, rhoddodd Llys Ynadon Cwmbrân ryddhad amodol i Mr Kenny am ddwy flynedd, wedi’i leihau o dair blynedd am ei ble euog.  Gorchmynnwyd iddo dalu tâl dioddefwr o £20, yn ogystal â £561.24. i Gyngor Dinas Casnewydd

Rhybuddiodd y Cynghorydd Ray Truman, dirprwy arweinydd ac Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thrafnidiaeth, drigolion eraill rhag dioddef arferion anghyfreithlon o’r fath.

“Rydym yn cymryd digwyddiadau o dipio anghyfreithlon o ddifrif a byddwn yn gweithredu trwy’r llysoedd yn erbyn y rhai hynny sy’n methu â gwaredu sbwriel yn gyfreithlon.

“Mae er lles pawb i sicrhau bod unrhyw weithredwr sy’n gofyn am arian i waredu gwastraff â thrwydded ddilys gan Gyngor Dinas Casnewydd. Cyfrifoldeb y cwsmer yw gwirio’r manylion hynny’n drylwyr, neu fynd i’r llys fydd ei hanes, fel yn yr achos hwn.

“Hoffwn gymryd y cyfle hwn i longyfarch tîm Balchder yng Nghasnewydd am sicrhau’r erlyniad hwn,” meddai'r Cyng. Truman.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.