Newyddion

Ysgol fusnes dros dro yn agor ei drysau

Wedi ei bostio ar Monday 27th February 2017

Heddiw, lansiodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd ysgol fusnes dros dro fydd yn cynnig cyngor heb ei ail a chefnogaeth i fusnesau a darpar entrepreneuriaid.

Mae disgwyl i ryw 100 o bob fynychu cyfres o weithdai am ddim dros y pythefnos nesa yn The Gallery ym Marchnad Casnewydd.

Dywedodd y Cynghorydd Wilcox: “Mae hwn yn un o nifer o weithgareddau yr ydym wedi eu cyflwyno i roi cymorth i fusnesau ac i helpu canol y ddinas i ddatblygu a ffynnu.  Rwy’n edrych ymlaen ar weld rhai o’r rhai fydd yn yr ysgol yn agor busnesau newydd yn y dyfodol, neu'n datblygu'r busnesau sydd eisoes ganddynt ar waith.

Y llynedd, gwnaeth Cyngor Dinas Casnewydd sefydlu cronfa ddatblygu fusnes, ac un o’i hymrwymiadau oedd i ddod ag Ysgol Fusnes Dros Dro i’r ddinas.

Dywedodd y Cynghorydd John Richards, Aelod Cabinet dros Adfywio a Buddsoddiad: “Mae’n ardderchog bod cynifer o bobl sydd â diddordeb mewn cychwyn mentrau newydd, a phobl sydd eisoes â'u busnesau eu hunain, wedi ymuno â'r fenter hon ac rwy'n siŵr y cawn ni i gyd gyngor gwerth chweil yn y gweithdai gwerthfawr hyn."

Bydd masnachwyr newydd a chwmnïau sydd eisoes wedi eu sefydlu yn gallu dysgu sut i greu gwefan am ddim, sut i gychwyn busnes heb arian a sut i ddod o hyd i gwsmeriaid drwy’r cyfryngau cymdeithasol.

Bydd y gweithdai’n trafod pob agwedd ar ddechrau, bod yn berchen ar a rhedeg busnes, ynghyd â chynnig cymorth un-i-un ble bynnag sy’n bosib, a pharau â chymorth ar-lein i'r holl gyfranogwyr ar ôl y digwyddiad.

 

Mae tîm arloesol yr Ysgol Fusnes Un-dydd oll yn rhedeg eu mentrau eu hunain ac mae ganddyn nhw enw da am helpu pobl eraill i ddod yn hunan-gyflogedig.

Ynghyd â’r Cyngor, ymhlith partneriaid y digwyddiad mae Tai Dinas Casnewydd, Busnes Cymru, Cymunedau yn Gyntaf, Casnewydd Nawr, Charter Housing, Cymdeithas Dai Sir Fynwy a Canolfan Byd Gwaith.

Gall busnesau, gan gynnwys rhaid sydd heb gofrestru, fynychu’r gweithdai. Mae'r amserlen yma:  www.popupbusinessschool.co.uk/newport

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.