Newyddion

Lefelau cynhyrchiant Casnewydd yn trechu dinasoedd eraill Cymru

Wedi ei bostio ar Tuesday 7th February 2017

Nododd adroddiad dylanwadol a gyhoeddwyd yr wythnos hon bod lefelau cynhyrchiant Casnewydd yn uwch na Chaerdydd ac Abertawe.

Gwnaeth Cities Outlook 2017, a gynhyrchwyd gan y Ganolfan Ddinasoedd, ymchwilio i ddata pwysig gan 62 o ddinasoedd yn y DU.

Roedd yn canolbwyntio'n bennaf ar allforio i'r UE a gweddill y byd yn sgil y bleidlais Brexit, ond hefyd ar berfformiad economaidd.

Un o'r ffactorau y gwnaeth y Ganolfan Ddinasoedd edrych arno oedd gwerth ychwanegol crynswth (GYC) sef mesuriad o werth y cynnyrch a'r gwasanaethau a gynhyrchir mewn ardal.

Yng Nghasnewydd, roedd y GYC fesul gweithiwr yn 2015 yn £45,600 o'i gymharu â £44,800 yng Nghaerdydd a £42,800 yn Abertawe.

Nododd yr adroddiad bod cynhyrchiant ac arloesi yn arwain at dwf economaidd hir-dymor.

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: "Mae'r ffigyrau hyn yn dangos pam fod Casnewydd yn le gwych i fusnesau. Mae ein dinas ni wedi profi amseroedd caled yn sgil y dirwasgiad rhyngwladol, ond mae gennym weithlu ffantastig sydd â llawer i'w gynnig i gyflogwyr.

  "Os gall y cyngor wneud gwahaniaeth, rydym yn gwneud popeth yn ein gallu er mwyn helpu i wneud y ddinas yn lle gwell i fyw a gweithio ynddi, ac i ymweld â hi. Rydym yn cyfrannu'n llawn yn y Fargen Ddinesig a fydd yn buddsoddi £1.2 biliwn yn rhanbarth de-ddwyrain Cymru, gan gynnwys Casnewydd, dros y ddau ddegawd nesaf."

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.