Newyddion

Mae cyllideb y Cyngor yn addo cyllid ychwanegol ar gyfer addysg a gofal

Wedi ei bostio ar Monday 20th February 2017

Mae Cabinet Cyngor y Ddinas Casnewydd wedi gwneud argymhellion ar gyfer cyllideb 2017/18 sy’n dangos ymrwymiad clir i breswylwyr mwyaf agored i niwed y ddinas.

Yn dilyn ymgynghoriad helaeth gyda’r cyhoedd a phartneriaid, mae’r Cabinet heddiw wedi trafod adborth ar y cynigion arbedion drafft a gyflwynwyd yn Rhagfyr.  

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: “Gofynnon i bobl roi gwybod i ni pa feysydd oedd yn bwysig iddyn nhw, lle gallwn wneud gwelliannau, a lle dylen ni flaenoriaethu cyllid.

“Roedden ni’n falch iawn gyda’r ymateb gan y cyhoedd a’n partneriaid gydag ymatebion i fyny'n sylweddol ar y llynedd.

“Rydym wedi rhoi ystyriaeth ofalus i'r holl adborth ac o ganlyniad, mae cyllid ychwanegol wedi'i ddyrannu i feysydd allweddol gan gynnwys addysg a gofal.

“Mae’n rhaid i ni ddarparu cyllideb gytbwys, ac mae hyn yn mynd yn anoddach bob blwyddyn wrth i'r galw am wasanaethau dyfu, ond mae ein cyllid gan San Steffan yn parhau i ostwng.”

Mewn ymateb i adborth o’r ymgynghoriad, mae £1.1miliwn ychwanegol wedi’i ddyrannu i’r gyllideb ar gyfer ysgolion Casnewydd. Er bod cyllid ychwanegol wedi’i roi’n gyson i ysgolion dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf – un ai’n diwallu neu'n rhagori ar y lefel gan Lywodraeth Cymru – cydanbuwyd y gallai addysg yng Nghasnewydd gael ei effeithio heb y lefel hon o gefnogaeth.

“Mae darparu addysg ragorol i'n holl fyfyrwyr yn flaenoriaeth allweddol i'r cyngor.  Rydym yn falch o allu cynnig y gyllideb ychwanegol hon, y gall yr ysgolion ei gwario ar eu blaenoriaethau eu hunain.  Byddwn yn parhau i weithio gyda hwy i’w helpu i reolau’r cyllid sydd ar gael iddyn nhw ac i gynllunio ar gyfer yr heriau a’r arbedion anochel yn y dyfodol.

“Rydym wedi rheoli cyllideb y cyngor yn ofalus, ac o ganlyniad mae gennym rywfaint o gyllid ar gael i’w ail-fuddsoddi.  Mae addysg yn faes y mae pob un ohonom yn cytuno y dylid buddsoddi ynddo."  Meddai’r Cynghorydd Wilcox.

Roedd adolygiad o ofal cartref hefyd wedi’i gynnig yn wreiddiol.  

Ychwanegodd y Cynghorydd Wilcox: “Roedd neges glir o’r ymgynghoriad fod pobl eisiau i’r gwasanaeth hwn barhau i gael ei ddarparu gan y cyngor ei hun.  Rydym wedi gwrando, rhoi ystyriaeth bellach iddo, a phenderfynu amddiffyn y gwasanaeth hwn ar gyfer y dyfodol agos.”

Cynigiodd y Cabinet hefyd gynnydd o 3.5 y cant o ran y Dreth Gyngor – llai na’r 4 y cant yr ymgynghorwyd arno.

Dywedodd y Cynghorydd Wilcox: “Er bod y Dreth Gyngor yn gyfrifol am lai na phumed o’n cyllideb gyffredinol, rydym yn cydnabod yn llawn ei fod yn wariant misol helaeth i’n preswylwyr.  

“Rydyn ni’n gobeithio ein bod wedi taro cydbwysedd rhwng fforddiadwyedd a'r angen i gyllido gwasanaethau allweddol ledled y ddinas.  Hyd yn oed gyda'r cynnydd hwn, bydd Casnewydd yn parhau i fod â’r ail lefel Dreth Gyngor isaf yng Nghymru, ac un o’r isaf yn y DU.”

Mae’r cynnydd o 3.5 y cant yn cyfateb i gynnydd o ychydig dros £34 y flwyddyn neu 66 cheiniog yr wythnos ar eiddo Band D cyffredin.  Yn awdurdod cymdogol Blaenau Gwent, byddai’r un cynnydd canrannol yn golygu cynnydd blynyddol o bron i £51.

Bydd y gyllideb arfaethedig, gan gynnwys y cynnydd yn y Dreth Gyngor, yn mynd gerbron y Cyngor llawn ddydd Iau 2 Mawrth.

Mae papurau o gyfarfod y Cabinet ar gael o online. Caiff cofnodion eu cyhoeddi cyn bo hir. 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.