Cabinet i drafod cynigion cyllideb yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus
Wedi ei bostio ar Monday 13th February 2017
Ar ddydd Llun 20 Chwefror, bydd Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd yn ystyried y cynigion cyllidebol terfynol
Ar ddydd Llun 20 Chwefror, bydd Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd yn ystyried y cynigion cyllidebol terfynol, gan gynnwys treth gyngor, y bydd yn eu hargymell i’r cyngor llawn fis nesaf.
Yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr, trafodwyd arbedion o hyd at £3.5 miliwn, wrth i’r cyngor geisio lleihau bwlch o bron £5 miliwn yn y gyllideb yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Ers hynny mae ymgynghoriad llawn wedi'i gynnal a ddenodd tua 50 y cant yn fwy o ymatebion na llynedd. Bydd Aelodau Cabinet yn ystyried yr holl adborth a dderbyniwyd yn eu cyfarfod, gan gynnwys sylwadau gan y cyhoedd, partneriaid, undebau llafur, busnesau, ysgolion, y trydydd sector a'r Comisiwn Tegwch.
Yn dilyn cyfarfod Cabinet Rhagfyr, a dechrau’r ymgynghoriad cyhoeddus, derbyniodd Cyngor Dinas Casnewydd ei ffigwr terfynol ar gyfer Grant Setliad Refeniw 2017/18 gan Lywodraeth Cymru. Mae’r arian hwn yn cyfateb i tua 80 y cant o gyllideb gyffredinol y cyngor, gyda chyfraniadau treth gyngor yn cyfrannu tua 20 y cant.
Roedd y grant terfynol yn is na nodwyd yn wreiddiol gan Lywodraeth Cymru sy’n cynrychioli 0.4 y cant o ostyngiad o ran arian cyllid, ond, sydd, mewn gwirionedd yn ostyngiad o 0.7 y cant o ystyried newidiadau i sut mae grantiau'n cael eu darparu a chyfrifoldebau newydd y mae'n rhaid eu cyllido.
Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: “Rwy’n ddiolchgar am yr holl adborth gan unigolion a sefydliadau - mae wedi ein helpu i nodi'r meysydd sydd bwysicaf i chi, a bydd y safbwyntiau hyn yn cael eu hystyried yn llawn wrth i ni wneud ein penderfyniadau yr wythnos nesaf.
“Dyw darparu cyllideb gytbwys ddim yn hawdd o ystyried cyllidau sy'n gostwng yn gyson a'r galw cynyddol am wasanaethau lleol pwysig iawn. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi nodi ein bod ni hefyd yn debygol o weld toriadau yn y blynyddoedd i ddod, felly’n mae’n holl bwysig ein bod ni’n cynllunio’n ofalus ac yn dangos rheolaeth ariannol gref er mwyn amddiffyn gwasanaethau'r dyfodol gorau gallwn ni."
Bydd y Cabinet yn penderfynu ar eu hargymhellion terfynol ar gyfer arbedion a buddsoddiadau yn ogystal â threth gyngor. Bydd y rhain yn mynd i’r cyngor llawn ddydd Iau 2 Mawrth yn y cyfarfod ac yn argymell y dreth gyngor a bennir i’r Cyngor.
Gweler agenda’r Cabinet https://democracy.newport.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=139&MId=6744&Ver=4