Newyddion

Cynigion adfywio ar gyfer dau adeilad tirnod

Wedi ei bostio ar Friday 22nd December 2017

Mae cabinet Cyngor Dinas Casnewydd wedi cymeradwyo benthyciad £12 miliwn tuag at ailddatblygu adeilad hyll amlwg yn swyddfeydd a gwesty.

Mae Garrison Barclay Estates, y cwmni y tu cefn i'r cynllun ar gyfer hen swyddfa ddidoli'r Post Brenhinol, hefyd wedi gweithio gyda'r cyngor i gaffael Tŵr y Siartwyr a'r unedau masnachu cyfagos, gan gynnwys cyn siop adrannol BHS.

Mae wedi derbyn prydles newydd gan y cyngor ar gyfer yr adeiladau at ddibenion ailddatblygu.

Mae'r cwmni eisoes yn gweithio gyda'r cyngor ar nifer o ddewisiadau i adfywio'r eiddo sydd yn wynebu Commercial Street i helpu i ddarparu twf cynyddol yng nghanol y ddinas.

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: "Mae hyder yng Nghasnewydd yn tyfu. Mae cynnydd yn y diddordeb gan gwmnïau sydd yn gallu gweld potensial y ddinas ac am ddod â'u busnes yma.

  "Fel cyngor, rydym am wneud y cyfan a allwn i weld y ddinas yn llewyrchu a thyfu gan y bydd hyn yn dod â buddion i'r rhai sydd yn byw yma.

  "Golyga hynny fod yn rhaid i ni fod yn ddewr a blaengar i sicrhau nad yw'r cyfleon hynny yn llithro drwy ein bysedd ond yn dod yn realiti cyn gynted ag y bo modd.

Rydym wedi cytuno i fenthyg y cyllid angenrheidiol i roi benthyciad graddol o £12 miliwn i Garrison Barclay Estates a gaiff ei ad-dalu gyda chyfradd llog y farchnad. Byddant yn defnyddio hwn i adfywio'r cyn swyddfa ddidoli i swyddfeydd o ansawdd uchel a'r gwesty sydd yn fawr eu hangen.

  "Bydd hefyd yn gwella adeilad sydd, ar hyn o bryd, yn anharddu'r olygfa ar y brif linell reilffordd o Lundain.

 

  "Mae'r newyddion am Dŵr y Siartwyr, hen siop BhS a siopau eraill yn y bloc hwnnw hefyd yn newyddion gwych ac rwy'n edrych ymlaen i weld cynigion GBE i adfywio'r eiddo tirnod hwn. Mae'n fwy o newyddion cadarnhaol ar gyfer canol y ddinas a Chasnewydd yn ei gyfanrwydd - ac rwy'n siŵr y bydd mwy i ddod yn 2018.

DIWEDD Cysylltiadau Cyhoeddus Cyngor Dinas Casnewydd 01633 210461

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.