Newyddion

Marchnad Casnewydd i gynnal ffair Nadolig elusennol

Wedi ei bostio ar Tuesday 5th December 2017

Mynedfa Stryd Fawr Marchnad Casnewydd

Mae mwy na 30 o sefydliadau elusennol wedi cofrestru i gymryd rhan mewn dathliad o wirfoddoli yn y gymuned mewn ffair elusennol Nadoligaidd ym Marchnad Casnewydd.

Mae’r digwyddiad, ar ddydd Sadwrn 9 Rhagfyr, yn cael ei drefnu gan Gymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Gwent (GAVO) a gefnogir gan Mark Rogers, masnachwr yn y farchnad sy’n gweithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd a Newport Norse i hyrwyddo’r Farchnad.

Gall ymwelwyr fwynhau gwrando ar gorau cymunedol lleol, yfed gwin cynnes a mwynhau manion fel mins peis yn y ffair rhwng 10am a 3pm.

Dywedodd Jane Shatford, Rheolwr Datblygu Trydydd Sector GAVO: “Mae hyn yn gyffrous iawn. Rydym yn aml yn meddwl y byddai’n braf cynnal digwyddiad yng Nghasnewydd sy’n brolio’r holl waith gwych y mae sefydliadau elusennol a chymunedol lleol yn ei wneud.”

 “Pan ddaeth Mark Rogers atom â'r syniad o ddefnyddio adeilad hyfryd y farchnad i gynnal digwyddiad elusennol cymunedol enfawr 'doedden ni fyth am wrthod.

 “Mae elusennau a gwirfoddolwyr lleol wrth wraidd y gymuned ac maen nhw’n rhoi cymorth hanfodol i bobl hyd yn oed yn ystod yr adegau anoddaf.

 “Byddai’n wych pe bai pobl Casnewydd yn dod allan i gefnogi’r ffair fel ffordd o ddiolch i sefydliadau sy'n rhoi o’u hamser i wneud Casnewydd yn lle gwell i fyw a gweithio ynddo.”

Bydd y sefydliadau â stondinau yn y ffair yn codi arian at eu hachosion da.

 “Felly os ydych yn chwilio am syniadau anrhegion Nadolig neu am ddysgu beth sy’n digwydd yn eich cymuned, edrychwn ymlaen at eich gweld ar 9 Rhagfyr,” meddai Jane.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.