Newyddion

Cyngor Dinas Casnewydd yn cefnogi cais Abertawe i fod yn Ddinas Diwylliant 2021

Wedi ei bostio ar Thursday 7th December 2017
DebbieWilcox

Mae Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, Debbie Wilcox, yn estyn ei chefnogaeth i gais Abertawe i ddod yn Ddinas Diwylliant 2021.

 

Mae Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, Debbie Wilcox, yn estyn ei chefnogaeth i gais Abertawe i ddod yn Ddinas Diwylliant 2021.

Mae Abertawe yn gwneud cynnig olaf cryf i'r Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn Hull ddydd Mawrth, 7 Rhagfyr, sef diwrnod cyfryngau cymdeithasol Abertawe.

Bydd Cyngor Casnewydd yn rhannu’r ymgyrch ac mae’n annog preswylwyr lleol i helpu i ddod â Dinas Diwylliant y DU i Gymru am y tro cyntaf yn 2021.

Dywedodd y Cynghorydd Wilcox, sydd hefyd yn arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y byddai Abertawe yn ennill y fath fraint yn rhoi hwb i weddill y wlad.

“Hoffwn i ddymuno pob llwyddiant i Abertawe yn ei chais i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2021; byddai’n dda ar gyfer Abertawe ac yn wych i Gymru gyfan.

“Rwy’n gobeithio y saif pawb y tu cefn i’r ddinas ac ymuno â’r ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol i ledaenu’r neges ymhell,” dywedodd y Cyng. Wilcox.

Dywedodd llefarydd ar ran Abertawe:  “Bydd pob tamaid o gefnogaeth a gawn ni’n gwneud gwahaniaeth oherwydd y bydd y dyfarnwyr yn gwylio’r negeseuon a ddaw.

“Mae’n rhywbeth hawdd ei wneud a byddwch yn helpu i ddod â Dinas Diwylliant y DU i Gymru am y tro cyntaf yn 2021.

Dyma sut y gallwch chi helpu:

Cam 1: Ewch ar eich cyfrifon Twitter a Facebook.

Cam 2: Dilynwch DCMS ar twitter.com/DCMS a www.facebook.com/dcmsgovuk

Cam 3: Rhannwch eich cefnogaeth dros Abertawe a – dyma sy’n bwysig – cynhwyswch yr hashnodau #Abertawe #DinasDiwylliant2021 yn eich negeseuon a thagiwch @DCMS ar Twitter.

Mae’n hollbwysig eich bod yn gwneud hyn cyn 7pm ar 7 Rhagfyr oherwydd mai dyna pryd y caiff Abertawe wybod a yw wedi ennill yn ei chais i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU 2021, yn fyw ar The One Show’r BBC.

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.