Newyddion

Dewch i ddweud eich dweud ar gynigion y gyllideb

Wedi ei bostio ar Thursday 21st December 2017

Mae ymgynghoriad cyhoeddus wedi dechrau ar gyfres o gynigion am newidiadau i wasanaethau a chymorth a gynigir gan Gyngor Dinas Casnewydd.

Yn ei gyfarfod ddoe, ystyriodd cabinet Cyngor Dinas Casnewydd y gyllideb ar gyfer 2018-19 a sut gallai gwasanaethau gael eu cynnig o fewn yr adnoddau sydd ar gael.

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd y Cyngor: “Yn syml, mae gennym lai o arian a staff nag erioed, ond mae disgwyl i ni gynnig cannoedd o wasanaethau yn y ddinas o hyd.

“Mae ein cyllid gan y llywodraeth wedi cael ei dorri dro ar ôl tro dros y blynyddoedd diwethaf ond mae’r galw am wasanaethau’n parhau i dyfu. Mae’r cyngor wedi cyflawni arbedion effeithlonrwydd a datblygu ffyrdd o gynnig gwasanaethau’n wahanol ond mae wedi dod yn fwyfwy anodd.

“Er bod £41 miliwn wedi’i arbed dros y pum mlynedd ddiwethaf ac er bod y cyngor wedi lleihau nifer y staff y mae’n ei gyflogi gan oddeutu chwarter, rydym yn disgwyl gorfod arbed o leiaf £30 miliwn arall erbyn 2022.

“Drwy gydol y broses hon, y ffocws yw diogelu gwasanaethau hanfodol a’n trigolion bregus, a sicrhau bod ein dinas yn tyfu yn y dyfodol.”

Mae’r cynigion arbed ar gyfer 2018-19 yn dod i tua £7.4 miliwn. Gallwch gyflwyno sylwadau ar y cynigion sy’n gofyn am gymeradwyaeth gan y cabinet neu aelod cabinet yn www.newport.gov.uk lle gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth am gyllid y cyngor a her gyffredinol y gyllideb.

Cynhelir yr ymgynghoriad cyhoeddus tan ddiwedd mis Ionawr 2018 ac wedyn caiff yr holl ymatebion eu hystyried gan y cabinet yn ei gyfarfod ym mis Chwefror.

Gan fod y cyngor wedi ymrwymo i fod yn agored a thryloyw, bydd modd gweld holl benderfyniadau penaethiaid gwasanaeth, er na chynhelir ymgynghoriad llawn ar y rhain.

Un o'r cynigion yr ymgynghorir arnynt yw cynyddu'r dreth gyngor gan bump y cant. Nid yw llawer o bobl yn sylweddoli bod y dreth gyngor ond yn creu tua 20 y cant o’r gyllideb flynyddol, gyda chyllid yn dod o Lywodraeth Cymru yn cyfrif am y rhan fwyaf ohoni – bron i 80 y cant o refeniw cyfan y cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Wilcox: “Er bod cyfran gymharol fach o'n cronfeydd yn dod o'r dreth gyngor, rydym yn gwerthfawrogi'n llawn fod hyn yn gost sylweddol i drigolion ac, yn annhebyg i lawer o awdurdodau eraill yn y DU, nid ydym yn cynnig cynnydd mawr, gan geisio arbed arian yn rhywle arall.

“Tra’n gorfod delio â phwysau cyllidebol enfawr, rydym yn teimlo ei bod yn deg mai dim ond chwarter o hynny fydd yn dod o’r dreth gyngor gyda’r gweddill yn dod o arbedion.”

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.