Newyddion

Oriau agor dros gyfnod y Nadolig yng Nghanolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref

Wedi ei bostio ar Tuesday 19th December 2017

I unrhyw un sydd am glirio eu cartrefi o eitemau nad oes eu heisiau arnynt cyn y Nadolig mae Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Docks Way, Casnewydd ar agor tan 4.30pm ar Noswyl Nadolig a chaniateir i’r cerbyd olaf ddod i mewn 15 munud cyn yr amser cau.

Bydd y safle ar gau ar Ddiwrnod Nadolig a Gŵyl San Steffan ac wedyn bydd ar agor fel arfer o 7.30am tan 4.30pm ar ddyddiau yn ystod yr wythnos ac o 9am tan 4.30pm ar ddydd Sadwrn 30 Rhagfyr a Nos Galan, 31 Rhagfyr 2017. Eto caniateir i’r cerbyd olaf ddod i mewn 15 munud cyn yr amser cau.

Mae’r safle ar gau ar Ddydd Calan, wedyn bydd ar agor fel arfer o ddydd Mawrth 2 Ionawr 2018 ymlaen.

Mae manylion am yr hyn y gellir mynd ag ef i’r ganolfan ailgylchu ar wefan Cyngor Dinas Casnewydd, ewch i http://www.newport.gov.uk/cy/Waste-Recycling/Household-Waste-Recycling-Centre/Household-Waste-Recycling-Centre.aspx

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.