Newyddion

Peidiwch â bod yn gybyddlyd y Nadolig hwn

Wedi ei bostio ar Wednesday 6th December 2017
Fake Free Newport logo

Mae ymgyrch sy’n amlygu peryglon prynu nwyddau ffug yn ystod yr adeg cyn y Nadolig yn cael ei hyrwyddo gan Gyngor Dinas Casnewydd a changen leol y Swyddfa Eiddo Deallusol.

Bydd y ddau sefydliad yn Friars Walk ddydd Sadwrn 9 Rhagfyr i drosglwyddo'r neges bod gwerthu nwyddau a gwasanaethau ffug yn niweidio'r economi leol a chenedlaethol ac mae hynny'n costio miliynau o bunnoedd y flwyddyn.

Hefyd mae gwerthiant o'r fath yn peryglu swyddi a bywoliaethau miloedd o weithwyr a pherchnogion busnes ar draws y DU.

Yn ystod y 12 mis diwethaf mae Swyddogion Safonau Masnach yng Nghyngor Dinas Casnewydd wedi ymdrin â channoedd o gwynion am bob math o nwyddau, yn bennaf dyfeisiau ffrydio’r cyfryngau yn anghyfreithlon; colur; dillad; persawr, cardiau cof a bagiau.

Daethpwyd ar draws fygythiad nwyddau ffug ar draws pob platfform gwerthu gan gynnwys eBay; Facebook; adeiladau masnachwyr a’r rhyngrwyd ac mae’n debygol y bydd nwyddau ffug yn fwy cyffredin yn yr adeg cyn y Nadolig.

Er mwyn helpu’r cyhoedd siopa gyda busnesau lleol gonest sydd wedi buddsoddi yn y ddinas, lansiodd Cyngor Dinas Casnewydd ei ymgyrch ei hun, sef Cadw Nwyddau Ffug Allan o Gasnewydd, fis Tachwedd 2016.

Mae’r busnesau hyn wedi cofrestru ac wedi addo sefyll ochr yn ochr â’r cyngor er mwyn ymuno yn y frwydr yn erbyn gwerthu nwyddau ffug.

Mae’r Cyng. Ray Truman, sef Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros Drwyddedu a Rheoleiddio, yn annog y cyhoedd i feddwl yn ofalus am brynu nwyddau ffug.

 “Gallai’r hyn sy’n ymddangos fel bargen arwain at gostio llawer mwy i bobl, efallai gallai'r gwefrwr rhad hwnnw a brynoch chi ar gyfer ffôn symudol achosi tân, gan beryglu bywydau eich anwyliaid.

“Neu beth am y tegan rhad hwnnw? A yw’r tegan rydych ar fin ei roi i’ch plentyn yn cynnwys darnau mân peryglus neu gemegolion nas profwyd?

“Byddem yn annog y cyhoedd i feddwl yn ofalus iawn cyn prynu bargeinion honedig a siopa gyda masnachwyr dilys, y mae llawer ohonynt wedi cofrestru i ymgyrch Cadw Nwyddau Ffug Allan o Gasnewydd.

“Mae’n frwydr barhaus i ymladd yn erbyn y llif o nwyddau ffug yn ein dinas a gobeithiwn y bydd pawb yn gwneud eu rhan i'n helpu i ddal y tramgwyddwyr hyn," meddai’r Cyng. Truman.

Os bydd unrhyw un yn dyst i nwyddau ffug yn cael eu gwerthu, ffoniwch y llinell gymorth ar Fasnachwyr Twyllodrus ar 01633 235233.

Gellir dod o hyd i restr o fasnachwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer ymgyrch y Cyngor ar wefan y Cyngor http://www.newport.gov.uk/cy/Business/Trading-Standards/Fake-Free-Newport.aspx

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.