Newyddion

British Lionhearts - Ffefrynnau lleol i gystadlu mewn gemau CFBB yng Nghasnewydd, Gateshead a Lerpwl

Wedi ei bostio ar Tuesday 5th December 2017

Mae’r British Lionhearts yn mynd ar daith ar gyfer tymor 2018 Cyfres Focsio’r Byd (CFB) pan fydd y tîm yn cystadlu yn Gateshead, Lerpwl a Chasnewydd.

Mae’r penderfyniad i symud y tîm o Lundain ar gyfer y tair gêm grŵp yn golygu y bydd gan gefnogwyr bocsio yn Ne Cymru, Lerpwl a Gogledd-ddwyrain Lloegr gyfle i weld ffefrynnau lleol o sgwad Bocsio Prydain Fawr yn cystadlu yn eu trefi genedigol.

Bydd yr Olympydd a gystadlodd yn Rio ac enillydd dwy fedel arian ym mhencampwriaeth Ewrop, Pat McCormack ac enillydd y fedal efydd ym mhencampwriaeth Ewrop, Calum French, sydd ill dau yn bocsio i Glwb Bocsio Amatur Birtley yn Tyne a Wear, yn cystadlu yn erbyn y Marchogion Croataidd yng Nghanolfan Hamdden Gateshead ddydd Gwener 16 Chwefror 2018.

Bydd y pencampwr Ewropeaidd presennol ac enillydd y fedel efydd ym mhencampwriaeth y byd 2017, Peter McGrail o Everton Red Triangle, yn bocsio yn erbyn yr Italia Thunder yn yr Awditoriwm yn yr Echo Arena yn Lerpwl ddydd Gwener 2 Mawrth 2018.

Nid yw’r bocswyr wedi’u dewis eto ar gyfer y gêm gyda’r France Fighting Roosters yng Nghanolfan Hamdden Casnewydd ddydd Sadwrn 14 Ebrill 2018, ond bydd yn cynnwys bocsiwr poblogaidd o Gymru.

Gallwch brynu tocynnau cynnar am bris gostyngedig o £15 nawr yn www.gbboxing.org.uk/tickets.

Caiff tîm y British Lionhearts ei gefnogi gan Chwaraeon DU ac mae’n cynnwys bocswyr o sgwad Bocsio PF yn bennaf ynghyd ag ambell focsiwr rhyngwladol.  Bocsio PF sy’n darparu’r holl hyfforddwyr a goruchwylir y tîm gan y Cyfarwyddwr Perfformiad, Rob McCracken.

Esboniodd Matt Holt, Prif Weithredwr Bocsio PF, sy’n goruchwylio tîm y British Lionhearts: “Mae CFB yn gystadleuaeth o ansawdd uchel iawn ac rydym wedi penderfynu symud y tîm o gwmpas y wlad fel y gallai mwy o gefnogwyr fanteisio ar y cyfle i fod yn rhan o’r achlysur yn ogystal â gweld y bocswyr o’u tref enedigol yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth o’r fath.

“Rydym yn falch iawn o gyflwyno CFB i leoedd megis Lerpwl, De Cymru a Gogledd-ddwyrain Lloegr lle y mae bocsio’n boblogaidd iawn.  Mae’r awdurdodau lleol ym mhob un o’r tair ardal hon wedi bod yn hynod frwdfrydig am gynnal y Lionhearts ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw i gynnal y digwyddiadau hyn ac i gyflwyno sioe wych i gefnogwyr bocsio yn yr ardal.”  

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: “Mae Casnewydd yn falch o gynnal llu o ddigwyddiadau chwaraeon gwerth chweil dros y flwyddyn nesaf. Mae bocsio yn boblogaidd iawn yn ein dinas ni, ac mae gennym focswyr lleol hynod dalentog.  Gyda chefnogaeth gan ein partneriaid hamdden Casnewydd Fyw, rwy’n falch iawn y bydd gan bobl leol y cyfle i fwynhau atmosffer Cyfres Focsio’r Byd a gwylio rhai o’r goreuon yn cystadlu.”

Ceir rhagor o fanylion am y British Lionhearts yn http://www.gbboxing.org.uk/world-series-boxing/ a thrwy ddilyn y tîm ar Twitter ar @Brit_Lionhearts

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.