Newyddion

Statws Baner Werdd i Barc Belle Vue yn dathlu'r deg

Wedi ei bostio ar Monday 21st August 2017

Barc Belle Vue

Dewch i ymuno yn y dathliadau i nodi cyflwyno’r wobr fawr ei bri i Barc Belle Vue y mis hwn.

Mae Cadwch Gymru'n Daclus wedi rhoi statws Baner Werdd am y degfed flwyddyn o’r bron ac am y tro cyntaf wedi rhoi Statws Treftadaeth i’r parc.

Cynhelir seremoni codi baner yn y parc ddydd Iau 24 Awst am 2.35pm ac fe gaiff coeden ei phlannu i nodi’r degfed pen-blwydd.

Gwahoddir aelodau’r cyhoedd i fynychu’r seremoni a bydd cerddoriaeth fyw yn dilyn ar y llwyfan band yn ystod y prynhawn.

Agorodd Parc Belle Vue yn 1894 ac mae iddo nodweddion sy’n nodweddiadol o barc cyhoeddus Fictoraidd gan gynnwys, tai gwydr, pafiliwn, llwyfan band a gerddi cerrig.

Mae i’r parc hefyd nifer o rywogaethau prin o ran blodau a phlanhigion.

Byddai ymwelwyr yn gynharach eleni wedi gweld coed Magnolia’r Himalayas sy’n cynhyrchu blodau mawr pinc siâp ffiolau ac mae modd gweld canghennau Coeden Jiwdas wedi eu gorchuddio â chlystyrau o flodau rhosod lelog.

Y mis diwethaf cynhyrchodd y Goeden Tiwlip ei blodau oren siâp tiwlip a bydd yr hydref yn rhoi lliw mawreddog i’r dail gan gynnwys dail melyn clir y Ginko bilboa a dail cochion hyfryd y Liquidambar.

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Harvey, aelod cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros Ddiwylliant a Hamdden, fod y ddinas yn falch iawn o’r parc a diolchodd i aelodau cyfeillion Parciau Addurniadol Casnewydd am y gwaith caled y maent yn ei wneud ym mharciau Belle Vue a Beechwood.

“Mae’n ffantastig i Barc Belle Vue gipio’r Faner Werdd am y degfed flwyddyn o’r bron ac i dderbyn Statws Treftadaeth am y tro cyntaf sy’n gydnabyddiaeth o’r gwaith caled y mae pawb yn nhîm gwasanaethau gwyrdd y Cyngor a'n gwirfoddolwyr niferus yn ei wneud.

“Mae cymaint gan ymwelwyr â Pharc Belle Vue i’w edmygu yn enwedig yr arddangosfeydd o flodau sy’n rhagorol.

“Carwn ddiolch i Cadwch Gymru'n Daclus am roi’r ddau anrhydedd mawr eu bri yma i ni, mae Cyngor Dinas Casnewydd yn falch dros ben i dderbyn yr anrhydeddau,” meddai’r Cyng Harvey.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.