Newyddion

Iechyd Cyhoeddus Cymru: Dau achos newydd o'r frech goch yng Ngwent

Wedi ei bostio ar Tuesday 1st August 2017

Mae dau achos newydd o'r frech goch wedi'u cadarnhau mewn achos sy'n effeithio ar ardaloedd Casnewydd a Thorfaen, gan ddod â'r cyfanswm i 12.

Ymhlith yr achosion newydd mae pobl a ymwelodd â lleoliadau gofal iechyd pan oeddent yn heintus, gan ysgogi Iechyd Cyhoeddus Cymru i rybuddio eto na ddylai pobl â symptomau'r frech goch fynd i ystafelloedd aros cyhoeddus.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ysgrifennu at bobl a allai fod wedi dod i gysylltiad â'r frech goch yn yr ardaloedd hyn, i'w cynghori am y risg.

Mae'r achos yn ardal Gwent wedi'i achosi gan yr un math o'r frech goch sydd wedi effeithio ar fwy na 14,000 o bobl ar draws Ewrop eleni ac sydd wedi lladd 35 o bobl.

Dylai plant â symptomau'r frech goch - sy'n cynnwys tymheredd uchel, peswch, trwyn yn rhedeg, llygaid coch (llid pilen y llygad), a brech goch nodweddiadol - gael eu cadw gartref o'r ysgol, meithrinfeydd a digwyddiadau cymdeithasol fel clybiau gwyliau a phartïon pen-blwydd.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn annog rhieni i beidio â mynd â phlant yr ymddengys fod ganddynt symptomau'r frech goch i'r feddygfa, yr adran damweiniau ac achosion brys na'r ysbyty lle gallent beryglu pobl eraill heb ffonio ymlaen llaw yn gyntaf.

Dylai rhieni sy'n amau bod gan eu plentyn y frech goch gysylltu â'u meddyg teulu neu ffonio Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 am asesiad. Dylent dynnu sylw eu darparwyr gofal iechyd at y symptomau cyn mynd i unrhyw apwyntiad.

Dywedodd Dr Rhianwen Stiff, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Rydym yn cysylltu eto â phobl a dreuliodd amser mewn ystafelloedd aros gofal iechyd ar yr un pryd â phobl â'r frech goch, i'w cynghori am y risg y gellid bod wedi'u heintio.

"Rydym eisoes wedi gweld achosion o'r frech goch yn yr achos hwn a drosglwyddwyd rhwng pobl mewn ystafell aros, sy'n dangos mor gyflym y gall y frech goch ledu heb orfod adnabod rhywun sydd wedi'u heintio'n dda iawn neu fod mewn cysylltiad agos iawn â nhw.

"Rydym yn parhau i annog rhieni i beidio â mynd â'u plant i unrhyw leoliad gofal iechyd os ydynt yn amau y gall fod y frech goch arnynt, ond i ffonio ymlaen llaw.

"Mae rhieni hefyd yn cael eu hatgoffa bod dau ddos o'r brechlyn MMR yn cynnig yr unig ddiogelwch yn erbyn y frech goch, a all fod yn ddifrifol iawn a hyd yn oed yn angheuol, ac nad yw byth yn rhy hwyr i ddal i fyny ar ddosau a gollwyd."

Mae rhaglen dreigl o sesiynau brechu wedi'i chwblhau eisoes mewn ysgolion ar draws Casnewydd mewn ymateb i'r achos, gyda 1089 o blant yn cael eu himiwneiddio.

Mae'r frech goch yn heintus iawn a'r unig ffordd o atal achosion mawr yw drwy frechu. Dylai rhieni nad yw eu plant wedi cael y ddau ddos diweddaraf o MMR sicrhau eu bod yn cysylltu â'u practis meddyg teulu ar unwaith er mwyn trefnu'r brechlyn cyflym, diogel ac effeithiol hwn.

Yn ogystal, anogir oedolion a anwyd ers 1970, nad ydynt erioed wedi cael y frech goch na'r brechlyn MMR, i sicrhau eu bod yn cysylltu â'u meddygfa ynghylch brechu, yn enwedig os ydynt yn gweithio gyda phlant.

Mae'r dos cyntaf o MMR fel arfer yn cael ei roi i fabanod pant maent rhwng 12 a 13 mis oed a'r ail pan fyddant yn dair oed a phedwar mis, ond nid yw byth yn rhy hwyr i ddal i fyny ar ddosau a gollwyd.

Gall tua 1 o bob 5 o blant â'r frech goch brofi cymhlethdodau difrifol fel heintiau yn y glust, niwmonia neu lid yr ymennydd. Mae un o bob 10 o blant â'r frech goch yn gorfod mynd i'r ysbyty ac mewn achosion prin gall fod yn angheuol.

Ceir rhagor o wybodaeth am y frech goch, gan gynnwys dolen i dystiolaeth fideo gan fam y gwnaeth ei merch tair oed heb ei brechu gael y frech goch yn http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/tudalen/44195

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.