Newyddion

Achos pellach o'r frech goch yng Ngwent

Wedi ei bostio ar Tuesday 8th August 2017

Mae achos arall o'r frech goch yng Ngwent yn golygu mai cyfanswm yr achosion yn y digwyddiad parhaus yw 13.

Mae gan yr achos, sy'n effeithio ar ardaloedd Casnewydd a Thorfaen, gysylltiadau uniongyrchol ag achos mawr yn Ewrop sydd wedi heintio 14,000 o bobl ers dechrau'r flwyddyn.

Mae'r frech goch yn hynod heintus, ac mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio rhieni ar draws Cymru bod plant heb eu brechu mewn perygl.

Dywedodd Dr Rhianwen Stiff, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Pan mae'r brechlyn MMR yn ddiogel, yn effeithiol ac ar gael yn hawdd, mae'n siomedig iawn gweld achosion o'r frech goch, sy'n haint difrifol a allai fod yn angheuol.

“Mae'r achos yn Ewrop yn fygythiad gwirioneddol i blant yng Nghymru nad ydynt wedi'u brechu, y rhai sy'n teithio i'r cyfandir dros wyliau'r haf a'r rhai sy'n dod i gysylltiad ag ymwelwyr o wledydd eraill sydd â'r frech goch.

“Yn yr achos hwn, rydym wedi gweld y frech goch yn cael ei throsglwyddo rhwng dieithriaid a dreuliodd ychydig iawn o amser yn unig yn yr un lle, sy'n tanlinellu mor heintus y gall yr haint hwn fod.

“Mae'r neges yn syml – os nad ydych chi, neu eich plentyn, wedi cael y ddau ddos diweddaraf o'r brechlyn MMR, siaradwch â'ch meddygfa ar unwaith.”

Dylai plant â symptomau'r frech goch - sy'n cynnwys tymheredd uchel, peswch, trwyn yn rhedeg, llygaid coch (llid pilen y llygad), a brech goch nodweddiadol - gael eu cadw gartref o'r ysgol, meithrinfeydd a digwyddiadau cymdeithasol fel clybiau gwyliau a phartïon pen-blwydd.  

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn annog rhieni i beidio â mynd â phlant yr ymddengys fod ganddynt symptomau'r frech goch i'r feddygfa, yr adran damweiniau ac achosion brys na'r ysbyty, lle gallent beryglu pobl eraill heb ffonio ymlaen llaw yn gyntaf.

Dylai rhieni sy'n amau bod gan eu plentyn y frech goch gysylltu â'u meddyg teulu neu ffonio Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 am asesiad. 

Mae rhaglen dreigl o sesiynau brechu wedi'i chwblhau eisoes mewn ysgolion ar draws Casnewydd mewn ymateb i'r achos, gyda 1,089 o blant yn cael eu himiwneiddio.

Mae'r frech goch yn heintus iawn a'r unig ffordd o atal achosion mawr yw drwy frechu.  Dylai rhieni nad yw eu plant wedi cael y ddau ddos diweddaraf o MMR sicrhau eu bod yn cysylltu â'u practis meddyg teulu ar unwaith er mwyn trefnu'r brechlyn cyflym, diogel ac effeithiol hwn.

Yn ogystal, anogir oedolion a anwyd ers 1970, nad ydynt erioed wedi cael y frech goch na'r brechlyn MMR, i sicrhau eu bod yn cysylltu â'u meddygfa ynghylch brechu, yn enwedig os ydynt yn gweithio gyda phlant.

Mae'r dos cyntaf o MMR fel arfer yn cael ei roi i fabanod pan maent rhwng 12 a 13 mis oed a'r ail pan fyddant yn dair oed a phedwar mis, ond nid yw byth yn rhy hwyr i ddal i fyny ar ddosau a gollwyd.

Gall tua 1 o bob 5 o blant â'r frech goch brofi cymhlethdodau difrifol fel heintiau yn y glust, niwmonia neu lid yr ymennydd. Mae un o bob 10 o blant â'r frech goch yn gorfod mynd i'r ysbyty ac mewn achosion prin gall fod yn angheuol.

Ceir rhagor o wybodaeth am y frech goch, gan gynnwys dolen i dystiolaeth fideo gan fam y gwnaeth ei merch tair oed heb ei brechu gael y frech goch yn http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/tudalen/44195

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.