Newyddion

Safonau Masnach Casnewydd yn Atafaelu dros Chwarter Miliwn o bunnoedd o Dwyllwr Tybaco Anghyfreithlon

Wedi ei bostio ar Friday 11th August 2017

Mae barnwr wedi gorchymyn y dylid atafaelu asedau gwerth mwy na £255,000 o ddyn a oedd yn ymwneud â gwerthu a chyflenwi tybaco anghyfreithlon yng Nghasnewydd

Ym mis Ionawr, dedfrydwyd Tahar Mohammed i dair blynedd yn y carchar am ei ran yn y gweithgarwch troseddol a gynhaliwyd o'i siop yn Commercial Road, Casnewydd.

Cafodd ef a thri dyn arall eu herlyn yn llwyddiannus yn dilyn yr hyn a ddisgrifiwyd fel un o'r gweithrediadau safonau masnach mwyaf o'i fath yng Nghymru.

Daeth ymchwiliad Enillion Troseddau yn erbyn Mohammed i ben yn Llys y Goron Caerdydd ar ddydd Mawrth 8 Awst.

Cytunwyd bod buddiant troseddol y busnes twyllodrus gwerth dros £550,000 a gwnaed gorchymyn atafaelu o £255.026.39 ar y telerau canlynol:

  • Caiff cerbyd yr amddiffynnydd ei drosglwyddo i Gyngor Dinas Casnewydd i'w waredu
  • Caiff 155 Commercial Road ei werthu mewn arwerthiant
  • Caiff ecwiti yng nghartref y teulu, sef £40,000 ei atafaelu
  • Caiff yr holl arian yng nghyfrif banc Mohammed ei atafaelu.

Mae ganddo dri mis i dalu a gallai methu gwneud hyn arwain at ddedfryd arall o garchar, sef tair blynedd a hanner.

Bu swyddogion Safonau Masnach Cyngor Dinas Casnewydd yn gweithio gyda chydweithwyr o Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) a'r heddlu i gynnal yr ymchwiliad a ddechreuodd ym mis Ebrill 2015.

Datgelodd archwiliad o uned storio o eiddo Mohammed fwy na 225,000 o sigarennau ffug a rhai heb doll wedi'i thalu arnynt, a mwy na 112 cilogram o dybaco rholio, wedi'i storio mewn gwahanol gynwysyddion, gan gynnwys blychau cardfwrdd o fara o Lithwania. Daeth Swyddogion Safonau Masnach o hyd i'r un blychau, gyda'r un rhifau sypiau arnynt, yn siop Feryad Mohammed Abdul-Kadir, Eastern European Food, ar Commercial Road yng nghanol y ddinas.

Ym mis Mehefin 2015, daeth swyddogion Safonau Masnach a CThEM o hyd i fwy na 500,000 o sigarennau anghyfreithlon a 194.8 cilogram o dybaco rholio mewn garej yng nghyfeiriad cartref Mohammed ym Mryste. Hefyd, atafaelwyd dros £40,000 mewn arian parod a guddiwyd o dan ei wely, a bagiau yn cynnwys miloedd o bunnoedd mewn darnau arian.

Ym mis Medi 2015, chwiliodd Safonau Masnach a'r heddlu y fflat uwchben y siop, a oedd yn berchen i Mohammed ac yn cael ei rhentu gan Richard Jendrejcak, a daethant o hyd i lithren o dan estyll y llawr, yn arwain yn syth i ystafell stoc y siop. Roedd y llithren wedi'i chuddio'n fwriadol y tu ôl i wal ffug.

Roedd monitor babanod, a oedd ger y llithren, yn cael ei ddefnyddio i gyfathrebu gyda chydweithwyr yn y siop a oedd yn gwerthu'r tybaco i gwsmeriaid. Daethpwyd o hyd i dros 13,000 o sigarennau ac wyth cilogram o dybaco rholio yn y fflat.

Cafodd cyfanswm o bron i dri chwarter miliwn o sigarennau a dros 300 cilogram o dybaco rholio eu hatafaelu, sy'n golygu y cafodd tua £300,000 o ran tollau a threth ei osgoi.

Dywedodd y Cynghorydd Ray Truman, yr Aelod Cabinet dros Drwyddedu a Rheoleiddio yng Nghyngor Dinas Casnewydd: "Roedd y gwrandawiad yr wythnos hon yn ddiweddglo boddhaol iawn i archwiliad ac erlyniad llwyddiannus.

  "Ni fyddwn yn oedi cyn erlyn pobl eraill sy'n ymwneud â gweithgarwch o'r fath ac rydym yn annog unrhyw un sy'n amau bod pobl yn gwerthu nwyddau neu wasanaethau ffug i ffonio ein llinell frys ar 01633 235233 yn gyfrinachol."

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.